Part of the debate – Senedd Cymru am 6:56 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Na, diolch eto i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o'r gwaith. Rwy'n gwybod y bydd cyd-Aelodau yn cytuno â mi y bydd cael cyfres o reolau yn benodol ar gyfer etholiadau lleol Cymru yn gwella hygyrchedd y gyfraith yn y maes hwn yn sylweddol, a'i fod yn gam sylweddol iawn ymlaen ar gyfer etholiadau Cymru. Diolch.