Part of the debate – Senedd Cymru am 7:00 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Llywydd, gadewch imi fod yn glir iawn. Nid yw'r mesurau newydd hyn wedi cael eu cyflwyno ar chwarae bach, ond gyda'r lefel uchel hon o ansicrwydd, mae'n iawn ein bod ni'n parhau i fod yn wyliadwrus. Bydd y mesurau newydd yn y rheoliadau yn ein helpu ni i ddiogelu Cymru wrth inni ddeall yr amrywiolyn yn well a phenderfynu ar ein camau nesaf. Rwy’n falch iawn bod gyda ni gyfle i drafod y cynnig hwn heddiw. Dwi'n edrych ymlaen at glywed sylwadau'r Aelodau a dwi'n annog Aelodau i gefnogi'r cynnig.