Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac roedd hi'n dda cael rhywfaint o optimistiaeth o'r adroddiad hwnnw a gyhoeddwyd y bore yma.
Yn amlwg, elfen arall o waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw cyflwyno'r ymgyrch pigiadau atgyfnerthu, ac mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yn cynnal cynhadledd i'r wasg y bore yma, gan sôn y bydd pawb wedi cael cynnig erbyn diwedd mis Rhagfyr, nid o reidrwydd yn cael eu hapwyntiad erbyn diwedd mis Rhagfyr. Pa mor bell i mewn i'r flwyddyn newydd y bydd disgwyl i bobl gael y cynigion hynny cyn iddyn nhw gael y pigiad atgyfnerthu? Oherwydd mae honno yn ystyriaeth bwysig iawn. Un peth yw cael y cynnig; peth arall yw cael y pigiad.