Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau i lacio hawliau eiddo deallusol fel y gellir gwneud brechlynnau a phatentau ar gael i wledydd incwm isel i helpu i liniaru'r pwysau sy'n cael eu hachosi gan bandemig COVID-19. Rydym ni wedi cyfleu'r farn honno yn uniongyrchol i Lywodraeth y DU gan fod cyfrifoldeb am hawliau eiddo deallusol yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl.