Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch, Llywydd. Mae rhywfaint o newyddion optimistaidd yn y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies ati, ond mae hefyd yn canfod bod dau ddos o frechlyn AstraZeneca yn cynnig dim amddiffyniad rhag amrywiolyn omicron, er bod yr un cafeatau yn berthnasol i'r dystiolaeth honno—sampl fach, canfyddiadau rhagarweiniol, ac yn y blaen. Mae yn canfod, hyd yn oed yn achos AstraZeneca, y byddai pigiad atgyfnerthu yn cynyddu lefel yr amddiffyniad i 71 y cant. Yn amlwg, mae cael y pigiad atgyfnerthu i bawb erbyn diwedd y mis, rwy'n credu, yn nod pwysig iawn, ond a oes rhywfaint o ystyriaeth yn cael ei rhoi, yng ngoleuni'r dystiolaeth hon, i roi blaenoriaeth i'r rhai a gafodd frechiad AstraZeneca?