Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Wel, Llywydd, nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gamau o'r fath gan Lywodraeth y DU, a byddwn yn synnu'n fawr iawn pe baen nhw'n barod i gymryd unrhyw gamau, oherwydd maen nhw'n parhau i rwystro cynigion ar gyfer hepgor hawliau eiddo deallusol yn Sefydliad Masnach y Byd. Gwn y bydd Jenny Rathbone yn ymwybodol iawn ei bod hi'n flwyddyn—dros flwyddyn bellach—ers i Dde Affrica ac India gynnig hepgoriad dros dro o hawliau eiddo deallusol ar frechlynnau COVID-19 gan wneud y cynnig hwnnw i Sefydliad Masnach y Byd. Ym mis Mai eleni, cyhoeddodd yr Unol Daleithiau eu bod nhw o blaid hepgoriad o'r fath, ac mae ymhell dros 100 o wledydd bellach wedi rhoi eu pwysau y tu ôl i hynny. Mae nifer gymharol fach o wledydd ledled y byd yn parhau i rwystro'r trafodaethau hynny, ac mae Llywodraeth y DU yn un ohonyn nhw. Cyfarfu Sefydliad Masnach y Byd ddiwethaf ddiwedd mis Hydref, ac mae arnaf ofn mai'r adroddiadau oedd bod trafodaethau ar hepgoriad wedi pallu ac yn ddigyfeiriad oherwydd y llond llaw hwnnw o wledydd. Dyna pam yr wyf i wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn ei annog i dynnu'r Deyrnas Unedig o'r sefyllfa honno; y dylem ni gefnogi'r safbwynt a gyflwynwyd gan Dde Affrica ac India, ond gan yr Unol Daleithiau hefyd, oherwydd byddai hynny'n datgloi'r sefyllfa lle na fyddem ni'n ddibynnol ar ewyllys da cwmnïau fferyllol unigol, ond byddai safbwynt cyson ar draws y byd lle na fyddai hawliau eiddo deallusol yn rhwystr rhag brechu gweddill y byd. Fe'm hatgoffir o'r hyn a ddywedodd cyn Brif Weinidog y DU Gordon Brown ychydig ddyddiau yn unig yn ôl: bod y gorllewin sydd ag adnoddau da yn chwarae rwlét y Rwsiaid gyda COVID-19, a thra nad ydym ni'n gwneud yr ymdrech y mae angen i ni ei gwneud i wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu brechu, rywle yn y byd, mae amrywiolyn yn datblygu a allai fod yn un sy'n dianc rhag diogelwch brechlynnau yn llwyr, a fydd yn fwy difrifol na'r fersiynau yr ydym ni'n ymdrin â nhw ar hyn o bryd. Mae er budd pawb, yn yr union ffordd y dywedodd Jenny Rathbone, i wneud yn siŵr bod poblogaeth y byd i gyd yn cael diogelwch brechiad, a byddai hepgoriad dros dro o hawliau eiddo deallusol yn un cam pwysig o ran helpu i sicrhau'r canlyniad hwnnw.