Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Prif Weinidog, roeddwn eisiau eich holi am ansawdd aer. Rwy'n gwybod, yr wythnos diwethaf, eich bod wedi ymateb i arweinydd y Ceidwadwyr drwy sôn am y Ddeddf aer glân, tybed a wnewch chi roi amserlen glir iawn, os yw hynny'n iawn, ar gyfer eich rhaglen ynghylch cyflwyno Deddf aer glân. Diolch yn fawr iawn.