Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi camau gweithredu ar waith ar draws ein cyfrifoldebau i fynd i'r afael â phenderfynyddion strwythurol iechyd, anfantais gymdeithasol ac economaidd. I ddyfynnu'r Aelod mewn dadl yn y Senedd yn ddiweddar, fodd bynnag, rydym bob amser yn gorfod gwneud hyn wrth nofio yn erbyn Llywodraeth y DU
'sy'n ysgubo'r rhai agored i niwed a'r rhai ar gyflogau isel ymaith.'