Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Hyd yma, prin iawn fu effaith uniongyrchol yr amrywiolyn newydd ar fusnesau lletygarwch Cymru. Mae'n anoddach asesu effaith anuniongyrchol drwy edrych ar newid ymddygiad cwsmeriaid. O ystyried lefelau uchel o ansicrwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn monitro datblygiadau'n fanwl ac yn ymateb yn gyflym pe bai angen hynny.