Clefyd Niwronau Motor

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 14 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:32, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolch i Peter Fox am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol i wella gwasanaethau i bawb sydd â chyflyrau niwrolegol, gan gynnwys clefyd niwronau motor. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i benderfynu beth arall y gellir ei wneud i wella bywydau pobl sy'n byw gyda'r clefyd creulon hwn.