1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2021.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaeth ffôn 111 yn y gogledd? OQ57392
Llywydd, cafodd gwasanaeth iechyd 111 Cymru ei lansio yn y gogledd ar gyfer unrhyw fater gofal iechyd brys ym Mehefin 2021. Rydyn ni’n buddsoddi adnoddau ychwanegol yn y gwasanaeth, o ran elfennau teleffoni ac elfennau ar-lein. Bydd hyn yn cryfhau’r gwasanaeth ar gyfer y gaeaf a thu hwnt, ac rydyn ni’n parhau i ddenu staff ansawdd uchel.
Diolch ichi am eich ateb, Prif Weinidog. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae pryderon difrifol yn cael eu mynegi wrthyf nad yw'r gwasanaeth yn gallu ymdopi â maint y galw. Yr ymdeimlad ymhlith gweithwyr nyrsio proffesiynol yw bod y gwasanaeth yn cael ei orlethu, gyda chleifion yn gorfod aros oriau am ymateb sylfaenol. Dywedwyd wrthyf, er enghraifft, fod galwadau, yn ystod yr wythnosau diwethaf heb eu hateb, a bu'n rhaid i un galwr aros 600 munud i gael ei brysbennu. Nawr, mae angen anfon rhai o'r achosion hyn ar frys i'r adran achosion brys, ond oherwydd yr ôl-groniad, wrth gwrs, maen nhw'n cael eu colli a'u gohirio, i'r pwynt pan fo rhai yn rhoi'r gorau iddi. Nid oes unrhyw arbenigwyr pediatrig ar y gwasanaeth 111 yn y gogledd, felly mae achosion sy'n ymwneud â phlant, pan fyddant yn mynd drwodd yn y diwedd, yn cael eu cyfeirio'n syth at yr adran achosion brys. Yn yr un modd, nid oes gan y ganolfan iechyd meddwl 111 ddigon o arbenigedd seiciatrig i ymdrin â'r galw presennol. Felly, a wnewch chi, Prif Weinidog, dderbyn nad yw'r gwasanaeth 111, sydd bellach, fel y dywedwch chi, wedi disodli'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau arferol yn y gogledd, yn cyflawni fel y dylai, oherwydd dyna'r farn a fynegwyd i mi gan weithwyr iechyd proffesiynol pryderus iawn sydd â blynyddoedd o brofiad yn y maes?
Llywydd, fe fyddwn i bob amser eisiau gwrando ar bryderon a godwyd gan leisiau o'r fath. Fe wnes i ymholiad uniongyrchol i'r bwrdd iechyd, gan wybod y byddwn i'n cael y cwestiwn hwn heddiw, a dywedwyd wrthyf nad oedd pryderon o'r math hwnnw wedi'u codi naill ai gan y bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth na chan y bobl sy'n ei ddarparu, er bod y system ym mhobman yng Nghymru o dan bwysau enfawr, ac rydym ar fin gofyn i'r bobl yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i ddarparu'r gwasanaeth 111, mewn rhai achosion, i fod yn rhan o'r system frechu atgyfnerthu newydd. Felly, nid yw'n syndod—ni all fod yn syndod—i neb ganfod nad yw'r system bob amser yn gallu darparu ymateb mor amserol i bobl ag y byddai'n digwydd mewn amgylchiadau tawelach. Gofynnais i'r bwrdd iechyd hefyd a oedd yn cael cwynion gan y cyhoedd am ansawdd y gwasanaeth, ac fe ddywedon nhw wrthyf fod llai nag un o bob 1,000 o ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi cwyno. Felly, nid wyf am eiliad yn diystyru'r pwyntiau pwysig y mae'r Aelod wedi'u codi—a byddaf yn sicrhau eu bod yn cael eu cyfleu i'r bwrdd iechyd—ond rwy'n credu bod mwy nag un adroddiad, mae'n debyg, ynghylch y ffordd y mae'r gwasanaeth yn ceisio darparu ymateb o safon i anghenion pobl yn y gogledd, er gwaethaf y galwadau gwirioneddol yr ydym yn eu rhoi ar y gwasanaeth iechyd yn wyneb y pandemig byd-eang.