Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am y pwyntiau yna. Wrth gwrs, dwi'n ymwybodol o achos David Graves, a dwi'n cydymdeimlo gyda fe am bopeth a oedd wedi digwydd a'r profiadau mae wedi'u cael. Dwi ddim wedi gweld dim byd oddi wrth Donna Ockenden, i ddweud y gwir. Os yw hi'n awgrymu rhywbeth, dydy hi ddim, fel dwi wedi gweld, wedi codi hynny gyda'r Llywodraeth. So, dwi ddim yn gallu cefnogi rhywbeth heb weld beth mae hi'n awgrymu. Os oes rhywbeth sydd wedi dod i mewn, wrth gwrs dwi'n fodlon edrych ar beth mae hi'n bwriadu ei wneud.