Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Llywydd, mae ein hymrwymiad i barhau â'r lwfans cynhaliaeth addysg wedi'i nodi yn ein rhaglen lywodraethu. Mae adborth gan ddysgwyr yn pwysleisio pwysigrwydd y cymorth hwn i'w helpu i barhau â'u hastudiaethau. Caiff rheolau'r cynllun lwfans eu hadolygu bob blwyddyn cyn agor y cynllun i geisiadau.