Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn. Mae cefnogi iechyd meddwl yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, fel y nodir yn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Rydyn ni’n cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd drwy’r fframwaith ymyriad wedi’i dargedu a thrwy becyn sylweddol o gymorth strategol.