2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 14 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:55, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Felly, rwy'n ceisio cofio pryd cawsom ni ddatganiad—rwy'n credu mai datganiad ysgrifenedig ydoedd—ar barthau 20 m.y.a. gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ond nid wyf i'n credu bod hynny'n rhy bell yn ôl. Felly, nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw ganllawiau na rheoliadau eraill sydd wedi dod i rym o ran y parthau 20 m.y.a. ond, os oes, byddaf yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog wneud datganiad ysgrifenedig.