Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch. Wel, rwy'n cytuno; mae dwy flynedd yn amser hir ym mywyd unrhyw un, ond yn sicr ym mywyd person ifanc, ond byddwch chi'n ymwybodol o'r pwysau sylweddol ar ein GIG, nid yn unig yn eich rhanbarth chi ond ledled Cymru ac yn wir y DU. Rwy'n gwybod bod cryn dipyn o waith yn cael ei wneud gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â'r byrddau iechyd, mewn cysylltiad â CAMHS, a bod cyllid yn cael ei gyflwyno hefyd.