Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw. Hoffwn i ddechrau drwy wneud ychydig o sylwadau am y don gyntaf o gerrig milltir yn y gobaith o ganolbwyntio ar y sail resymegol y tu ôl iddyn nhw ac yn y gobaith o ddarganfod pam y mae'r Gweinidog o'r farn bod y cerrig milltir hyn yn rhai uchelgeisiol, o ystyried yr amserlen 30 mlynedd.