Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch, Llywydd. Trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'i saith nod llesiant, mae gennym ni fframwaith ar gyfer dyfodol Cymru: Cymru gyfiawn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, a Chymru y byddem ni'n dymuno ei rhoi yn etifeddiaeth i'n plant a'n hwyrion.
Mae gan bob un ohonom ni ran mewn amddiffyn a gwella ein cenedl. Elfen bwysig o hynny yw ystyried sut yr ydym ni am osod y sylfeini gyda'n gilydd yn awr ar gyfer y Gymru well yr ydym ni'n ei dymuno yn y dyfodol. I Lywodraeth Cymru, mae ein gwaith ni o lunio rhaglen waith Cymru yn y dyfodol yn ymwneud â'n symud ni'n agosach at Gymru sy'n well i bawb. Rydym ni'n gosod cerrig milltir cenedlaethol yng nghyd-destun ein hadferiad parhaus ar ôl pandemig COVID-19 yn ogystal ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach.
Ym mis Chwefror, fe wnaethom ni ymrwymo i fap ffyrdd ar gyfer pennu cerrig milltir cenedlaethol cyntaf Cymru, gan ddiweddaru'r dangosyddion cenedlaethol a chyhoeddi adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Rwy'n falch iawn o fod yn siarad heddiw wrth i ni gyflawni'r tri ohonyn nhw a chyhoeddi ein hymateb i'r ymgynghoriad a'n dadansoddiad annibynnol.
Uchelgais y Llywodraeth yw i'r cerrig milltir cenedlaethol hyn ysgogi gweithredu cydweithredol a bod yn fesur allweddol o gyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen mewn nifer o feysydd allweddol. Yn eu hanfod, eu bwriad yw ysgogi cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb, ac maen nhw'n adlewyrchu ein penderfyniad ni i wneud hyn. Yn dilyn ein rhaglen ymgysylltu â rhanddeiliaid ac o ganlyniad i'r ymatebion i'n proses ymgynghori ffurfiol, rydym ni wedi mireinio ein cerrig milltir cenedlaethol a'n cyfres o ddangosyddion cenedlaethol, ac rydym ni wedi eu cyflwyno heddiw.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n ymrwymo i ddileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac o ran anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Mae gwaith teg a chyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd ein gweledigaeth ni o Gymru sy'n cydnabod bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym myd gwaith yn hanfodol i gymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial heb unrhyw ystyriaeth o'u cefndir na'u hamgylchiadau. Rydym ni'n gosod targed o 75 y cant o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru i fod â chymwysterau lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Rydym ni'n gwybod bod pobl sydd â chymwysterau a sgiliau lefel uwch yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth barhaus, gydag enillion a chyflog mwy, yn enwedig i'r unigolion hynny o ardaloedd difreintiedig. Oherwydd hyn, rydym ni hefyd yn bwriadu lleihau canran yr oedolion o oedran gweithio nad oes ganddyn nhw ddim cymwysterau i 5 y cant neu'n is ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050.
Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sylweddol o'r math hwn rhwng gwahanol ardaloedd yng Nghymru yn un o uchelgeisiau sylfaenol y Llywodraeth hon a byddwn ni'n mesur cynnydd hirdymor drwy gyfrwng y cerrig milltir cenedlaethol. Bydd ein carreg filltir genedlaethol sy'n canolbwyntio ar sicrhau y bydd o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050 yn mesur y camau sydd wedi eu cymryd i gefnogi pobl ifanc yn ystod cyfnod tyngedfennol yn eu bywydau. Rydym ni'n gwybod bod cyfnodau o anweithgarwch economaidd yn gynnar ym mywyd gwaith unigolyn yn cael effaith niweidiol, a bod pobl ifanc wedi bod yn arbennig o agored i newidiadau o ran cyflogaeth yn sgil pandemig COVID-19.
Rydym ni'n awyddus i weld pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i fod mewn gwaith cynaliadwy o ansawdd da heb unrhyw ystyriaeth i'w hoedran nac ymhle maen nhw'n byw. Dyna pam rydym ni'n ymrwymo i ddileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chodi cyfranogiad grwpiau nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur.
Fel Llywodraeth, mae'n rhaid i ni weithredu bob amser i ddiogelu iechyd a llesiant pobl Cymru a'n huchelgais ni yw dileu'r cyfan sy'n rhwystro plant rhag cael y dechrau gorau posibl i'w bywydau o ran iechyd. Rydym ni'n gwybod hefyd fod arferion da mewn plentyndod yn aml yn datblygu yn ddewisiadau iach gwell ymysg oedolion. Dyna pam rydym ni'n gosod targed i gynyddu canran y plant sydd â dau neu fwy o arferion iach i 94 y cant erbyn 2035 a mwy na 99 y cant erbyn 2050.
O feddwl am ein cyfrifoldeb byd-eang ehangach, rydym ni'n ymrwymo i sicrhau y bydd Cymru dim ond yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau'r byd erbyn 2050. Mae hon yn elfen bwysig o'n gweledigaeth ar gyfer datblygu Cymru gynaliadwy a chadarn ac o'n hymateb parhaus ni i'r argyfwng hinsawdd a natur, gan amddiffyn ein hadnoddau naturiol a mwyaf gwerthfawr. Rydym ni'n addo cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net yng Nghymru erbyn 2050 ac mae'r garreg filltir genedlaethol hon yn adleisio'r targedau presennol yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a'i nod yw annog a galluogi pawb yng Nghymru i chwarae eu rhan wrth leihau allyriadau, gan ein bod ni'n gwybod y bydd newidiadau cymdeithasol ac ymddygiadol yn hanfodol i gyflawni ein hamcanion. Byddwn ni hefyd yn parhau i archwilio sut y gellid cyrraedd y targed pwysig hwn yn gyflymach byth.
Rydym ni'n mynegi o'r newydd ein hymrwymiad i ddiogelu a meithrin twf y Gymraeg drwy sefydlu carreg filltir genedlaethol i gefnogi miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'n hunaniaeth a'n diwylliant ni yng Nghymru ac rydym ni wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i weld yr iaith yn ffynnu a'i hamddiffyn hi.
Ochr yn ochr â'r cerrig milltir cenedlaethol, rwyf i hefyd wedi gosod cyfres wedi ei diweddaru o ddangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd sy'n mesur cynnydd Cymru tuag at y nodau llesiant. O ganlyniad i'r adborth a gawsom yn yr ymgynghoriad, mae'r rhain yn cynnwys mesurau newydd o ran cyfiawnder, teithio, costau tai a chynhwysiant digidol—bob un ohonyn nhw'n faterion y dywedwyd wrthym ni eu bod nhw'n chwarae rhan bwysicach yn ein llesiant cenedlaethol yn awr nag yn y cyfnod cyn y pandemig. Bydd y gyfres estynedig hon o ddangosyddion cenedlaethol yn parhau i'n helpu ni i fesur cynnydd tuag at y saith nod llesiant a'n taith ni tuag at fod yn Gymru decach, wyrddach, a mwy llwyddiannus.
Mae heddiw hefyd yn nodi cyhoeddiad rhifyn diweddaraf adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Mae'r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd mewn un man hygyrch wybodaeth awdurdodol am y tueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol sy'n debygol o effeithio ar lesiant Cymru yn y dyfodol. Gall gosod y cerrig milltir cenedlaethol, diweddaru ein dangosyddion cenedlaethol, a bwrw golwg o'r newydd ar dueddiadau'r dyfodol sy'n llywio Cymru sicrhau bod y nodau llesiant yn parhau i fod yn berthnasol i fywydau pobl yn awr a'r heriau yr ydym ni'n eu hwynebu heddiw ac yn y dyfodol. Byddwn ni'n rhoi'r diweddariad cyntaf ar y cynnydd tuag at y cerrig milltir cenedlaethol yn adroddiad llesiant Cymru y flwyddyn nesaf, a byddwn yn parhau â'r sgwrs ynglŷn â cherrig milltir cenedlaethol yn 2022 gyda datblygiad yr ail set o gerrig milltir.
Er mwyn i'r cerrig milltir cenedlaethol fod yn llwyddiannus, mae hi'n hanfodol i bob corff cyhoeddus ystyried y ffordd orau y gall gyfrannu atyn nhw. Maen nhw'n rhan bwysig o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac maen nhw'n gosod y sylfeini ar gyfer llwyddiant. Dirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn o fod yn cyflwyno'r cerrig milltir cenedlaethol hyn i'r Senedd; cerrig milltir sydd â chyfiawnder cymdeithasol, trechu tlodi, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn ganolbwynt iddyn nhw. Rwy'n falch ein bod ni, gyda'n gilydd, yn llunio Cymru sy'n fwy cyfiawn, cyfartal a ffyniannus.