Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r dyhead i greu Cymru gyfiawn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, y weledigaeth y mae'r Gweinidog wedi ei datgan, yn llywio'r fframwaith sydd wedi ei ategu gan y cerrig milltir a'r dangosyddion sydd wedi eu cyhoeddi heddiw, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n siŵr y gall Aelodau o bob plaid gytuno arno. Ond mae'r dyfodol, wrth gwrs, yn ansicr, gyda'r pandemig sy'n parhau o hyd ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, dau ffactor yn unig sy'n newid ein rhagolwg ar y dyfodol hwnnw a'n gallu i'w llunio.
Os mai nod y cerrig milltir cenedlaethol yw pennu llwybr ar gyfer cynnydd Cymru, gan ddefnyddio'r mesurau a fydd yn sicrhau bod y polisïau y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud yn gweithio tuag at y Gymru gryfach, decach a gwyrddach honno, yna mae'n rhaid i ni eu gweld nhw nid yn unig yn llywio polisi ond yn amlwg yn y canlyniadau hefyd. Dylai nod y cerrig milltir cenedlaethol fod i ddangos i bobl Cymru pa gynnydd y mae angen ei wneud o ran y nodau llesiant a'r hyn sy'n cael ei gyflawni, a bod yn fodd i gyfathrebu hefyd sy'n caniatáu i'r cynnydd hwnnw fod yn amlwg yn ein bywydau bob dydd.
Pan fo cymaint o bolisïau'r Llywodraeth yn cael eu cyflawni gan awdurdodau lleol, efallai mai'r darlun lleol yn hytrach na'r un cenedlaethol sydd fwyaf ystyrlon yn aml. Mae'r garreg filltir genedlaethol i greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, er enghraifft, sydd wedi ei mynegi eto heddiw, yn cael ei thanseilio mor aml gan gynllunio gwael a diffyg uchelgais ar lefel leol o ran darpariaeth addysg Gymraeg. Mae'r Gweinidog wedi cydnabod yr anghydraddoldebau sylweddol rhwng gwahanol ardaloedd Cymru, ac mae yna wahaniaethau hefyd o ran y cyflawni sy'n cyfrannu at hyn. A allai setiau data lleol o fewn y dangosyddion ganiatáu i bobl gymharu a chyferbynnu perfformiad yn eu hardaloedd nhw eu hunain a gadael iddyn nhw farnu a yw'r ymdrechion cenedlaethol i lunio'r Gymru y mae llawer ohonom ni'n dymuno ei gweld yn arwain at newid yn eu cymunedau lleol? A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut y caiff y darlun lleol, neu sut y gallai'r darlun lleol, gael ei adlewyrchu yn y dangosyddion a'r rhaglen waith ehangach i Lywio Dyfodol Cymru?
Rwy'n croesawu'r ymrwymiad o ran y targed sero net, sydd wedi ei gynnwys, wrth gwrs, yn y cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, ac rwy'n annog i'r gwaith i gyflymu'r targed hwnnw y soniodd hi amdano fod â blaenoriaeth lawn, gan gynnwys datganoli rhagor o bwerau a allai ein galluogi i'w gyrraedd yn gyflymach, oherwydd efallai mai dyma darged pwysicaf ein hoes ni. Rwyf i hefyd yn croesawu'r ymgais i fynd i'r afael â mater y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac anghydraddoldeb mewn cyflogaeth. Er hynny, gan mai un o'r nodau llesiant yw Cymru fwy cyfartal ac mae lles menywod yn ymestyn y tu hwnt i gynhwysiant economaidd, a allai'r Gweinidog amlinellu sut y caiff diogelwch menywod a'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol eu cynnwys yn adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol', polisïau'r dyfodol, a'r dull hwn o lywio dyfodol Cymru?
Mae'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru wedi aros o gwmpas 30 y cant ers dros ddegawd. Yn y cyfamser, mae tuedd i weithwyr anabl ennill llai na phobl nad ydyn nhw'n anabl, ac mae hyn wedi aros yn yr unfan ers nifer o flynyddoedd. Rwy'n falch o glywed y Gweinidog yn cyfeirio at hynny heddiw yn ei datganiad a'i hymateb i Joel James, oherwydd rydym ni'n gwybod bod pobl anabl yn wynebu costau byw llawer uwch oherwydd eu hanableddau neu eu cyflyrau, sy'n gwneud y nod hwn o ddileu'r bwlch cyflog anabledd yn bwysicach byth. O gofio mai dim ond yn 2019 y cafodd y bwlch cyflog anabledd ei ychwanegu at ddangosyddion llesiant cenedlaethol Cymru, beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i ddileu'r mater treiddiol hwn yn unol â'r nodau llesiant cenedlaethol?
Ym mis Rhagfyr 2020, canfu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol nad oedd ystyriaethau ar gyfer pobl anabl yn cael eu cynnwys mewn strategaeth a pholisi trafnidiaeth yng Nghymru. Felly, rwy'n falch o glywed bod mesurau newydd ynglŷn â theithio wedi eu cynnwys o ganlyniad i adborth yr ymgynghoriad. Ar hyn o bryd, nid yw'r system drafnidiaeth yng Nghymru o safon ddigonol ar gyfer anghenion pobl Cymru, nac ar gyfer targedau sero net, a dyna pam mae hi'n bwysig ei bod yn cael ei chynnwys yn un o'r dangosyddion erbyn hyn. Serch hynny, fe ddylai unrhyw ddangosydd ynghylch teithio ystyried hygyrchedd a dibynadwyedd i bobl anabl hefyd, oherwydd bydd hyn yn allweddol ar gyfer sicrhau cynhwysiant economaidd a chymdeithasol. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog roi sicrwydd i ni fod hyn yn wir? Diolch.