Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch. Ddoe, gosodais i Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), ynghyd â'r memorandwm esboniadol, gerbron y Senedd. Mae datganoli trethi yn bwysig; mae'n darparu ysgogiad sylweddol i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni blaenoriaethau strategol yn well i ddinasyddion a busnesau Cymru. Mae'r pedair blynedd diwethaf o brofiad o ddatganoli trethi wedi galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu gallu treth sylweddol. Rydym ni wedi sefydlu dull penodol i Gymru o lunio polisi treth ac o gyflawni'r polisi hwnnw gan Awdurdod Cyllid Cymru. Mae ein dull gweithredu yn cadw blaenoriaeth ar anghenion dinasyddion, cymunedau a busnesau Cymru.
Mae'r Bil hwn yn darparu ysgogiad cyllidol ychwanegol drwy ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud gwelliannau mewn ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi blaenorol y DU—hynny yw, i dreth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi—a fydd yn effeithio ar addasiad grant bloc Cymru, ac felly'r refeniw sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ar hyn o bryd, bob tro y mae digwyddiad cyllidol yn y DU, rydym ni'n cymryd y risg y gallai fod newid sy'n effeithio ar dreth ddatganoledig, ac efallai nad oes gennym ni'r mecanwaith priodol i ymateb yn gyflym. Gallai newidiadau o'r fath gael goblygiadau i fusnesau, y farchnad eiddo, ac effaith gyllidebol uniongyrchol ar adnoddau Llywodraeth Cymru.
Cafodd hyn ei ddangos ym mis Gorffennaf 2020 pan na ddywedodd Llywodraeth y DU wrthym ni ymlaen llaw eu bod yn torri treth dir y dreth stamp, er gwaethaf y goblygiadau clir i'r farchnad dai yng Nghymru ac adferiad economaidd y DU o'r pandemig. Er y gallwn ni amrywio cyfraddau a throthwyon ar gyfer treth trafodiadau tir drwy reoliadau, ni allwn wneud hyn ar gyfer pob newid.
Caniateir diwygiadau i Ddeddfau trethi Cymru hefyd er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol eraill, fel sicrhau nad yw trethi datganoledig Cymru yn cael eu gosod pan fyddai gwneud hynny'n anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol, er enghraifft, lle mae cytundeb masnach newydd yn dod i ben gyda gwlad arall sydd â goblygiadau i'n trethi.
Bydd hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud newidiadau deddfwriaethol i ddiogelu rhag gweithgarwch osgoi, y gellir ei atal ar unwaith wedyn. Mae hyn yn cynnwys achosion lle bydd mwy o eglurder yn y ddeddfwriaeth yn ei roi y tu hwnt i amheuaeth fwriad arfaethedig y darpariaethau deddfwriaethol, ac a fydd o bosibl o fudd i drethdalwyr drwy roi'r gorau i hyrwyddo cyfleoedd osgoi nad ydyn nhw'n bodoli mewn gwirionedd. Mae camau o'r fath wedi eu cymryd gan Lywodraeth y DU i ddiogelu cyfundrefnau treth a threthdalwyr yn y gorffennol, ac rwyf i'n awyddus i Weinidogion Cymru allu cymryd camau tebyg.
Yn olaf, bydd y Bil hwn hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud newidiadau pan fo penderfyniad llys neu dribiwnlys yn nodi mater y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y gallai elwa ar newid deddfwriaethol, neu ar egluro'r gyfraith yn well. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau sy'n ymwneud â Deddfau trethi Cymru, trethi rhagflaenol y DU, trethi eraill, neu gyfreithiau eraill a allai effeithio ar y trethi datganoledig.
Mae'r Bil hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a allai gael effaith ôl-weithredol. Bydd defnydd ôl-weithredol y pŵer yn cael ei ystyried fesul achos gan y gall y cyfiawnhad dros bob un fod yn wahanol, yn dibynnu ar y diben dan sylw. Fel arfer, bydd hyn yn cael ei gyfyngu i achosion lle bydd y rheoliadau yn arwain at fudd i drethdalwyr Cymru. Er enghraifft, efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno i drethdalwyr Cymru elwa ar ostyngiad i'w rhwymedigaeth dreth o'r un dyddiad ag y cafodd newid ei gyflwyno yn Lloegr. Efallai bydd Gweinidogion Cymru yn dewis cyflawni hynny drwy fabwysiadu, neu addasu, yr un polisi neu bolisi gwahanol.
Fodd bynnag, yn achos gweithgarwch osgoi, efallai y bydd Gweinidogion yn dymuno gallu cyhoeddi y bydd y cynllun yn cael ei gau gan reoliadau yn y dyfodol sy'n dod i rym ar ddyddiad y cyhoeddiad. O dan amgylchiadau o'r fath, gallai trethdalwyr ddisgwyl yn rhesymol i newidiadau ôl-weithredol gael eu cyflwyno sy'n sicrhau eu bod yn talu'r swm cywir o dreth.
Rwy'n cydnabod bod defnyddio deddfwriaeth ôl-weithredol yn gofyn am gyfiawnhad polisi a diogelwch cyfreithiol, ac mai dim ond mewn sefyllfaoedd lle mae angen hynny y dylai cael ei ddefnyddio. Dyna pam y mae'r Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad ar ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau sy'n cael effaith ôl-weithredol. Ac mae drafft o'r datganiad hwn wedi ei rannu â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Bydd y Bil yn darparu offeryn ystwyth i Weinidogion Cymru i ddiogelu refeniw Cymru a gaiff ei godi drwy drethi datganoledig, gan gyfrannu at yr ymgyrch dros ddatganoli trethi yn sefydlog. Rydym ni wedi ymgynghori â'n rhanddeiliaid ar gynnwys y Bil, a hoffwn i fanteisio ar y cyfle i ddiolch yn ffurfiol i bawb sydd wedi cyfrannu at ei ddatblygu. Rwy'n edrych ymlaen at y broses graffu a fydd yn dilyn yn awr ac ymgysylltiad adeiladol sefydliadau sydd eisoes wedi cyfrannu a hefyd cyd-Aelodau ar draws y Siambr. Diolch.