Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Jest i bigo i fyny ar rai o'r sylwadau blaenorol yn benodol ynglŷn â'r Bil cyllid neu Fil cyllideb blynyddol, dwi'n dal i deimlo fel roeddwn i pan oeddwn i'n cadeirio'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd diwethaf fod hynny'n rhywbeth yn sicr y byddwn i'n dymuno i ni fel Senedd symud tuag ato fe. Dwi'n derbyn beth mae'r Gweinidog yn ei ddweud ynglŷn ag, efallai, pa mor gyflym y gallwn gyrraedd y pwynt yna, ond mae'n sicr yn drafodaeth y byddwn i'n awyddus i'w chadw'n fyw ar bob cyfrif. A dwi'n cytuno hefyd efo'r Gweinidog, boed hynny'n digwydd neu beidio, mae'n dal angen y pwerau y mae'r Llywodraeth yn edrych amdanyn nhw yn y Bil sydd o'n blaenau ni heddiw.
Dwi wedi dweud yn y gorffennol, does gyda fi ddim problem mewn egwyddor i bwerau o'r math yma gael eu rhoi i Weinidogion Cymru. Mae'n gwbl resymol. Mae cael modd i gyflwyno newidiadau ar fyr rybudd fel hyn yn rhywbeth, dwi'n meddwl, sydd yn rhesymol, fel rwy'n dweud, ond mae'n gorfod digwydd o dan amgylchiadau penodol. Byddai methu ag ymateb yn arwain efallai at oblygiadau niweidiol, goblygiadau annheg, at sefyllfa afresymol. Dwi'n credu o dan yr amgylchiadau hynny ei bod hi'n rhesymol ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad yna. Mae'n rhywbeth y mae Llywodraethau eraill yn ei gymryd yn ganiataol o gwmpas y byd. Felly, does dim byd unigryw yn hynny o beth.
Wedi dweud hynny i gyd, cyn gallu cefnogi deddfwriaeth sy'n grymuso Gweinidogion fel hyn, mae'n rhaid i ni i gyd fod yn hyderus fod y cyfyngiadau angenrheidiol yn eu lle i wneud yn siŵr bod y paramedrau yn glir o ran, yn gyntaf, o dan ba amgylchiadau mae'r Gweinidog yn gallu gweithredu, yn ail, i ba raddau mae'r Llywodraeth yn gallu gweithredu, ac yn drydydd wedyn wrth gwrs, bod yna fesurau cryf yn eu lle i sicrhau craffu a phroses o roi cydsyniad seneddol amserol, neu mor fuan ag sy'n bosib ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud. Ar yr olwg gyntaf, mae'r ddeddfwriaeth i fi yn edrych yn eithaf rhesymol ar y ffryntiau yna, ond yn amlwg dwi'n edrych ymlaen i graffu ar y ddeddfwriaeth arfaethedig dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Dim ond un neu ddau o gwestiynau gen i yn benodol i chi, Weinidog. Mae yna risg, wrth gwrs—ac efallai rydyn ni wedi ei weld e'n digwydd mewn cyd-destunau eraill—dros amser, fod pwerau fel hyn yn cael eu defnyddio gan Weinidogion i fynd tu hwnt i'r awdurdod a roddwyd iddyn nhw. Felly, allwch chi gadarnhau ar y record y prynhawn yma mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol yn unig a phan fod dim opsiynau amgen y byddech chi yn bwriadu defnyddio'r pwerau fyddai'n dod i Weinidogion Cymru yn y Bil yma?
A hefyd, er mwyn cydbwyso pethau ychydig, efallai, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i roi i gynnwys lleisiau neu bersbectifau mwy annibynnol yn y broses o benderfynu gweithredu'r pwerau yma? Hynny yw, mae'r awgrym wedi cael ei wneud efallai fod yna rôl mwy ffurfiol i'r Llywydd, o bosib, yn y broses. Mi wnaeth Prifysgol Caerdydd, wrth gwrs, yn eu hymateb nhw i'r ymgynghoriad llynedd, awgrymu bod angen sicrhau amrywiaeth yn y grŵp sy'n penderfynu pryd y dylid ddefnyddio'r pwerau hyn, a byddwn i efallai â diddordeb i glywed sut ŷch chi'n bwriadu cyflwyno rhyw ffordd o gydbwyso o fewn y broses. Diolch.