Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan y DU un o'r systemau bancio manwerthu lleiaf amrywiol yn Ewrop. Mae'n system lle mae nifer fach o fanciau mawr iawn yn tra-arglwyddiaethu. Mae'r banciau hyn yn gweithredu yn ôl model busnes gwerth cyfranddalwyr traddodiadol sy'n ceisio gwneud y mwyaf o elw i'w perchnogion. Mae banciau manwerthu'r stryd fawr, fel y gwyddom ni, yn cilio o lawer o'n strydoedd mawr ar gyflymder cynyddol a brawychus. Yn ôl data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae nifer y canghennau banc yn y DU wedi gostwng 4,390, neu 39 y cant, rhwng 2012 a 2021. Mae'r cylchgrawn defnyddwyr Which? yn amcangyfrif mai dim ond 277 o ganghennau banc a chymdeithasau adeiladu fydd ar ôl yng Nghymru erbyn diwedd 2022.
Mae ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gefnogi creu banc cymunedol i Gymru yn ceisio mynd i'r afael â methiant y farchnad hon o ran y bwlch yn y ddarpariaeth, effeithiolrwydd, a mynediad at wasanaethau bancio o ansawdd yng Nghymru. Mae ein gweledigaeth ar gyfer banc cymunedol Cymru yn un sy'n seiliedig ar y model cydfuddiannol, sy'n eiddo i'w aelodau, ac sy'n cael ei redeg ar eu cyfer, yn hytrach na gwneud y mwyaf o elw i gyfranddalwyr. Bydd yn fanc cymunedol modern, fydd yn cynnig gwasanaeth llawn, gyda'i bencadlys yng Nghymru. Bydd yn cynnig cynhyrchion a gwasanaethau dwyieithog mewn sawl ffordd wahanol gan gynnwys yn ddigidol, ar-lein ac mewn canghenau. Bydd y banc yn hwyluso buddsoddi'n lleol ac yn gwella'r gwaith o adeiladu cyfoeth cymunedol, gan ail-ddefnyddio cynilon fel benthyciadau ac atal cyfalaf rhag gadael ein gwlad. Bydd yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau a strydoedd mawr, gan wneud gwasanaethau bancio bob dydd yn haws eu defnyddio i bob dinesydd waeth beth fo'u hincwm neu gyfoeth, yn ogystal ag i fusnesau bach ledled Cymru, wrth gwrs.
Rydym ni'r Llywodraeth, fodd bynnag, yn effro i'r heriau sylweddol o sefydlu banc cymunedol. Er bod nifer o fanciau cymunedol yn cael eu datblygu ledled y DU, nid oes banc cymunedol wedi'i sefydlu eto. Mae banciau cydweithredol a chydfuddiannol newydd yn wynebu mwy o heriau o'u cymharu â banciau eraill sy'n dilyn y model cyfranddalwyr. Mae hyn yn arbennig o wir o ran sicrhau cyfalaf datblygu a rheoleiddio, sy'n ei gwneud hi'n anodd camu i'r farchnad ac yna tyfu yn organig. Yn ogystal, mae cymwyseddau deddfwriaethol a rheoleiddiol y sector bancio yn faterion a gadwyd yn ôl. Felly, rydym yn dibynnu ar feddylfryd ac uchelgais cwmnïau'r sector preifat sy'n rhannu ein gweledigaeth a'n hethos er mwyn sefydlu a gweithredu banc cymunedol i Gymru.
Ers i'n gwaith i gefnogi creu banc cymunedol i Gymru gael ei archwilio am y tro cyntaf, mae banciau traddodiadol y stryd fawr wedi encilio o'n strydoedd mawr yn llawer cynt. Yn awr yn fwy nag erioed, mae nifer gynyddol o gymunedau ledled Cymru yn cael eu gadael heb fynediad corfforol i'r hyn a ddylai fod yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol yn ein barn ni. Nid yw effaith yr encilio hwn yr un fath ym mhobman, gyda chymunedau gwledig a'r unigolion a'r busnesau hynny ledled Cymru sy'n fwy dibynnol ar arian parod a'r berthynas wyneb yn wyneb yn cael eu taro galetaf.
Er gwaethaf yr ymgyrchoedd cymunedol amlwg niferus a gefnogir gan aelodau o bob lliw gwleidyddol yn y Senedd, mae banciau traddodiadol wedi parhau i gau canghennau. Rwy'n croesawu y gefnogaeth drawsbleidiol barhaus i greu banc cymunedol i Gymru a chydnabod bod cwestiynau'r Aelodau yn ddealladwy yn canolbwyntio fwyfwy ar yr amserlenni cyflawni, y cynlluniau i gyflwyno canghennau, a chynhyrchion a gwasanaethau i'w cynnig gan y banc cymunedol. Mae'r cwestiynau hynny'n adlewyrchu anghenion a phryderon cymunedau yn etholaethau'r Aelodau ledled Cymru.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith archwiliadol a wnaed gan Cambria Cydfuddiannol Ltd, cymdeithas gydweithredol a sefydlwyd i archwilio'r posibilrwydd o greu Banc Cambria fel banc cymunedol i Gymru. Bu'r gwaith hwn yn hanfodol wrth lywio strategaeth gyflawni Banc Cambria, ac o ganlyniad gyda datblygu ei berthynas â sefydliad ariannol sy'n bodoli eisoes. Mae'r hyn yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn ailddatgan ein cred bod gan y dull hwn fwy o botensial i ddarparu banc cymunedol hyfyw a chynaliadwy. Mae'r dull hwn hefyd yn cyd-fynd â'r argymhellion a wnaed yn adroddiad 'Mynediad at Fancio' gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Senedd ym mis Hydref 2019. Credwn fod y dull hwn yn cefnogi cydweithio ar draws y sector, yn lleihau'r risgiau ac yn lleihau'r costau i'r pwrs cyhoeddus, ac yn cynyddu'r cyflymder y gellir datblygu a lansio Banc Cambria yn ddiogel.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfu'r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau â'r timau sy'n ceisio sefydlu Banc Cambria i drafod y cynnydd a wnaed, y camau nesaf a'r meysydd lle y gellir defnyddio cymorth Llywodraeth Cymru orau i wella cyflymder y datblygiad a'r ddarpariaeth. Mae'n bleser gennyf ddiweddaru a hysbysu'r Aelodau, ac rwy'n croesawu y cyhoeddiad heddiw gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn datgan ei bwriad i ddatblygu ei dull o ddarparu banc cymunedol yng Nghymru. Mae darparu banc cymunedol yn addas iawn i'r gymdeithas gydfuddiannol Cymreig honno sydd â'i phencadlys yng Nghasnewydd. Maen nhw wedi bod yn gwasanaethu ac yn cefnogi aelodau a chymunedau ar draws de a gorllewin Cymru i gynilo a ffynnu ers dros 150 o flynyddoedd. Gan eu bod yn gymdeithas gydfuddiannol, maen nhw eisoes yn sefydliad sy'n gweithredu i ddiben arbennig, gan alluogi cymunedau i gael cymorth a chefnogaeth ariannol mewn lleoliadau sy'n gyfleus iddynt.
Er bod llawer o waith i'w wneud o hyd, gyda cherrig milltir allweddol ac agweddau pellach i benderfynu arnynt ar y gweill i Lywodraeth Cymru, y gymdeithas a Cambria Cydfuddiannol, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu'r holl gymorth priodol ac angenrheidiol er mwyn helpu i gyflymu'r broses o sefydlu a chyflwyno Banc Cambria ledled Cymru. Mae bellach yn briodol i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy arwain ar y cyfathrebu ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen. Rydym yn cydnabod ac yn cytuno bod datblygu systemau cadarn, diogel a chydymffurfiol yn hollbwysig i'r gymdeithas, ei haelodau presennol ac i aelodau Banc Cambria yn y dyfodol. Byddaf yn cwrdd â'r gymdeithas a Cambria Cydfuddiannol yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ac i ddeall ble y gall ein cymorth ychwanegu'r gwerth mwyaf. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau fel y bo'n briodol yn dilyn camau penderfynu allweddol. Diolch, Dirprwy Lywydd.