Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y bydd llawer o Aelodau'n sôn, mae'n siŵr, mae'r datganiad hwn, yn wir, yn amserol; mae bron yn teimlo fel stori newyddion beunyddiol y dyddiau hyn bod canghennau banc yn cau yn ein trefi a'n pentrefi ledled Cymru. Rhwng 2015 a 2019, collodd Cymru dros ddwy ran o bump o'i changhennau banc—dyna 239 o ganghennau'n gyfan gwbl. Yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru, er enghraifft, yn fy etholaeth gartref yn Ogwr, dim ond un gangen banc sydd ar ôl yn yr etholaeth gyfan ac mae hynny ym Maesteg.
Mae'n bwysig cofio hefyd nad sôn am ganghennau banc yn unig yr ydym ni, rydym ni hefyd yn sôn am beiriannau twll yn y wal, hefyd, yn cau, sy'n golygu bod tueddiadau tuag at fancio digidol a chymdeithas ddi-arian yn dechrau eithrio rhai grwpiau'n ariannol, a fydd, wrth gwrs, yn fwy difrifol mewn ardaloedd gwledig. Y gwir amdani yw y bydd gweithredoedd y sector bancio masnachol yn debygol o waethygu anghydraddoldeb rhanbarthol, a dyna pam mae Plaid Cymru yn croesawu datblygiad Banc Cambria ac, yn benodol, yn croesawu'r ffaith y bydd Cymru'n arwain y ffordd yn y DU drwy gael y banc cymunedol cyntaf, math o fanc sy'n gyffredin ledled y byd. A byddwn yn annog Aelodau i ddarllen am ba mor gyffredin yw banciau cymunedol yn yr Unol Daleithiau. Ac, wrth gwrs, gyda Banc Cambria, caiff yr arian a fuddsoddir ei fuddsoddi yng Nghymru er budd y rhai sy'n galw Cymru'n gartref, sy'n golygu y gallai fod potensial enfawr ar gyfer datblygu economaidd yn rhai o'n hardaloedd mwy difreintiedig.
Mae'n bwysig bod Banc Cambria, fel y mae Mark Isherwood eisoes wedi cyfeirio ato rwy'n credu, yn cael ei ystyried yn fanc i Gymru gyfan, yn enwedig pan ymddengys hi fod llawer o fanciau'r stryd fawr wrthi'n cefnu ar Gymru. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allai'r Gweinidog roi unrhyw arwydd o ble y bydd Banc Cambria yn ceisio sefydlu ei don gychwynnol o ganghennau banc, yn ogystal â lle y gallai Banc Cambria fod â'i bencadlys. Clywais Gasnewydd yn cael ei grybwyll yn y datganiad; mae'n bwysig, rwy'n credu, fod ei bencadlys y tu allan i Gaerdydd, ond, fel bachgen o Bencoed, byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn i estyn gwahoddiad a dweud na fyddai ots gen i weld cangen wedi agor ym Mhencoed, nac i Fanc Cambria hyd yn oed gael ei bencadlys yno. Ond mae'n bwysig, wrth gwrs, bod Banc Cambria yn bresennol mewn cymunedau ledled Cymru, o gymunedau ar y ffin i'r Cymoedd, i'r Fro Gymraeg ac i'n trefi glan môr.
Wrth gwrs, un mater cyson a gawn ni gyda banciau yng Nghymru yw bod diffyg gallu, neu anallu, i fancio drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym ni wedi clywed am sawl stori—un ddiweddar gyda HSBC—lle mae cymunedau Cymraeg wedi cael eu siomi yn hyn o beth. Rwy'n croesawu, fel y nododd y Gweinidog yn ei ddatganiad, y bydd gwasanaethau ar gael yn ddwyieithog. Ond a allai'r Gweinidog roi unrhyw arwydd a fydd holl wasanaethau Banc Cambria yn ddwyieithog ai peidio, gan gynnwys gwasanaethau mewn cangen yn ogystal â bancio ar-lein?
Yn olaf, chwe mis yn ôl, gofynnais i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a oedd Llywodraeth Cymru wedi ystyried sut y gallem ni ddefnyddio model cymunedol Banc Cambria ar gyfer busnesau eraill lle mae'r awenau yn nwylo cymunedau, efallai ym maes ynni neu ddur, er enghraifft, a pha gymorth y mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu ar gyfer hyn. Roedd y Gweinidog ar y pryd yn ymddangos yn agored i'r syniad, ond roedd am ganolbwyntio ar sefydlu Banc Cambria yn gyntaf, sy'n gwbl ddealladwy. Ond gan y bu peth cynnydd yn natblygiad Banc Cambria, a bod y portffolio bancio cymunedol wedi'i symud i'ch portffolio, Gweinidog, a oes mwy o ystyriaeth wedi'i rhoi i sut y gellid defnyddio'r model hwn mewn mannau eraill yn economi Cymru?