Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Gweinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad a'r copi ymlaen llaw heddiw, a hefyd am y briff y gwnaethoch ei roi i Aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda'ch swyddogion? Roedd hynny'n ddefnyddiol y bore yma hefyd. Cytunaf â chi, Gweinidog; mae pryder mawr yma, oherwydd mae cymaint o ansicrwydd a gwyddom fod omicron yn prysur ddod yn brif straen ar draws y DU ac yng Nghymru. Wrth gwrs, cytunaf mai cynyddu'r rhaglen frechu yw'r flaenoriaeth ac mae'n rhaid ehangu'r rhaglen frechu'n gyflym.
A gaf i ofyn ychydig o gwestiynau i chi am eich mesurau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio? A gaf fi ofyn am negeseuon, yn gyntaf oll? Gan y Prif Weinidog, yn ei ddatganiad ddoe a heddiw—y neges yw, 'Ewch am eich brechlyn atgyfnerthu, a gwnewch hynny yn flaenoriaeth'. Ond i lawer o bobl ledled Cymru, nid dyna'r mater mewn gwirionedd, oherwydd maen nhw’n barod; maen nhw'n barod i gael eu brechlyn atgyfnerthu. Credaf mai'r cwestiwn yw sut y gallan nhw wneud hynny. I lawer o bobl, er gwaethaf y negeseuon ei fod yn flaenoriaeth, mae'n fater o eistedd ac aros nes i chi gael eich gwahoddiad. Dyna'r realiti yma. Felly, dyna rai o'r materion o ran negeseuon yr oeddwn eisiau eu codi gyda chi am hynny. Oherwydd byddwn i'n dychmygu bod unrhyw un yn y Senedd rithwir hon heddiw yn teimlo'r un ffordd. Rwy'n barod i ollwng popeth i gael fy mrechlyn atgyfnerthu. Rwyf eisiau gwybod sut rwy'n mynd i ganfod lle rwy'n mynd i'w gael, pryd gaf fi wybod, beth ddylwn i ei wneud ac erbyn pa ddyddiad os nad wyf wedi cael fy ngwahoddiad. Felly, os dyna'r cwestiynau sydd gennyf i ac Aelodau yn y Siambr rithwir hon y prynhawn yma, dyna fydd y cwestiynau gan bobl ledled Cymru. Credaf mai dyna'r elfen bwysig yma o ran cyrraedd y targedau yr ydych chi wedi'u nodi—y targedau uchelgeisiol yr ydych chi wedi'u gosod i gynnig y gwahoddiad i bob oedolyn erbyn diwedd y flwyddyn.
Ynghylch y mesurau eraill o ran y nifer sy’n manteisio hefyd, yn eich papur briffio heddiw, fe wnaethoch sôn am gynlluniau ar gyfer cynyddu oriau agor. Fe wnaethoch sôn am hynny yn eich datganiad heddiw, ond nid wyf yn credu i chi sôn am yr amseroedd. Credaf yn y briff heddiw, os wyf yn iawn, eich bod wedi sôn am gynyddu amseroedd agor o 9 a.m. i 8 p.m. A gaf i awgrymu, i lawer o bobl, y gallant gyrraedd cyn 9 a.m. os yw hynny'n briodol? Gall llawer o bobl fod yn bresennol ar ôl 8 p.m. Felly, gaf fi ofyn i chi ailystyried amseroedd agor hirach efallai? Oherwydd byddwn yn awgrymu ei bod yn anodd iawn cyrraedd eich targed os na fydd yr amseroedd agor yn cael eu hymestyn ymhellach.
Law yn llaw â'r cwestiwn hwnnw, wrth gwrs, mae gwirfoddolwyr hefyd. Rydych chi wedi sôn am weithio gyda'r trydydd sector, ac rwy’n croesawu hynny. A wnewch chi nawr lansio ymgyrch recriwtio ledled Cymru ar gyfer gwirfoddolwyr? Oherwydd heb os nac oni bai mae angen i hynny ddigwydd ar frys. A gaf fi ofyn i chi beth yw eich cynlluniau o ran llenwi bylchau pan nad yw pobl yn cyrraedd, yn anffodus, ar gyfer apwyntiadau? Mae'n rhwystredig iawn, rwy'n gwybod. Ond pan nad yw pobl yn cyrraedd, beth yw'r cynlluniau ar gyfer llenwi'r apwyntiadau hynny gyda rhychwant amser byrrach?
Fe wnaethoch ddweud yn eich datganiad fod data sy'n dod i'r amlwg wedi datgelu nad yw dau ddos o'r brechlyn yn ddigon i'n hamddiffyn rhag omicron. A wnewch chi egluro a yw hyn dim ond yn gysylltiedig ag AstraZeneca, neu'r ddau frechlyn? A faint o ran y mae'r amser ers cael brechlyn yn ei chwarae i amddiffyn eich hun yn erbyn yr amrywiolyn newydd hwn? A gaf fi hefyd ofyn pa gynlluniau sydd gennych chi o ran canslo llawdriniaethau sydd wedi’u trefnu? Fe wnaethoch chi sôn ychydig am hynny heddiw hefyd. Rwyf yn pryderu am fod un o bob pump o bobl ledled Cymru eisoes ar restr aros, felly pa ymdrechion yr ydych chi’n eu gwneud i atal rhestrau aros rhag cynyddu ymhellach yn hyn o beth, a pha gynnydd sy'n cael ei wneud ar ganolfannau llawfeddygol, fel yr wyf wedi'i amlinellu o'r blaen?
Ac yn olaf, mae'n ymddangos bod rhywfaint o ddata cadarnhaol, data cynnar, sy'n dangos bod cyfraddau marwolaethau yn Ne Affrica wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y dyddiau diwethaf, felly tybed pa asesiad sydd wedi'i wneud o rannau eraill o'r byd lle mae'r amrywiolyn newydd wedi datblygu'n sylweddol sy'n dod â rhywfaint o obaith ac anogaeth y gellir ei dynnu o'r data hwnnw.