Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Dwi'n gobeithio, i roi nodyn mwy positif, fod peth o'r dystiolaeth gynnar rydan ni'n ei gweld yn mynd i brofi yn gywir, a'n bod ni efallai yn symud i mewn i bennod o'r pandemig lle mae'r feirws, o bosib, yn llai peryglus. Ond, wrth gwrs, am rŵan, dydyn ni ddim yn gwybod hynny, ac mae'n rhaid sylweddoli bod yna niferoedd uchel iawn yn mynd i gael y feirws rŵan. Hyd yn oed os ydy cyfradd y bobl sy'n mynd yn wirioneddol sâl yn is, mae o'n mynd i olygu pwysau mawr ar ein gwasanaethau iechyd ni oherwydd y niferoedd.
Dwi, wrth gwrs, yn cefnogi'r egwyddor o gyflymu'r broses o roi'r brechlyn booster, ond y perig sydd gennym ni rŵan, dwi'n meddwl, ydy bod disgwyliadau pobl yn uchel iawn, iawn, a dwi ddim eto wedi gweld y cynllun sydd yn rhoi hyder bod y rhaglen yn barod i fynd. Mae'r gwaith yn sicr yn adeiladu yn dda, a dwi'n ddiolchgar am y diweddariadau rydyn ni wedi'u cael gan y Gweinidog y pnawn yma ac mewn datganiad yn gynharach heddiw. Ond tra'i bod hi'n sôn am chaos yn Lloegr—fe welais innau yr un lluniau hefyd—dwi innau, mae gen i ofn, yn clywed adroddiadau am chaos yma yng Nghymru mewn llefydd, efo pobl yn troi fyny i ganolfannau brechu ac yn cael eu troi i ffwrdd oherwydd bod ganddyn nhw apwyntiad ym mis Ionawr, tra bod pobl eraill oedd ddim wedi cael apwyntiad eto, oherwydd eu bod nhw'n llai o flaenoriaeth, yn cael cerdded i mewn a chael y booster. Dydy hynny ddim yn gwneud llawer o synnwyr.
Mae angen eglurder ar beth sy'n digwydd i weithwyr allweddol sydd ddim yn weithwyr iechyd a gofal—heddlu ac athrawon. Oes yna ffordd iddyn nhw gael y brechiad ynghynt? Lle mae'r cynlluniau cadarn i fynd i'r afael â brechu pobl yn eu cartref, y bobl hynny sydd yn rhy fregus ac â phroblemau symudedd ac yn methu mynd i mewn i ganolfannau brechu? Mae'n rhaid i gyfathrebu fod yn glir yn wastad efo cleifion, ie, ond efo cydweithwyr o fewn gwasanaethau iechyd. Dydy o'n gwneud dim synnwyr i mi pan fydd un feddygfa yn dweud mai clywed ar Facebook wnaethon nhw bod yna ganolfan frechu walk-in yn yr ardal. Mae'n rhaid i hyn gael ei dynhau, ac mae'r cwestiynau yn lluosog, onid ydynt? Pa bryd fydd y canolfannau brechu cerdded-i-mewn yn agor? A fydd yna rai ym mhob un rhan o Gymru? A fydd pobl yn cael teithio o un ardal i'r llall rhwng siroedd, rhwng ardaloedd bwrdd iechyd, hyd yn oed i Lundain os ydyn nhw wedi clywed bod yna ganolfan frechu yn fanno, fel y gwnaeth un awgrymu wrthyf i yn gynharach? Dyma'r math o bethau rydyn ni angen eglurder arnyn nhw.
Dwi'n gwybod gymaint o her mae'r Llywodraeth, y byrddau iechyd a timau brechu yn ei hwynebu, a dwi'n ddiolchgar am ymroddiad pawb ar wyneb y graig, a dwi'n dymuno'n dda i bawb yn y cyfnod sydd o'n blaenau ni, ond mae angen i'r negeseuon yna fod yn gwbl glir, achos nid mynnu cael y booster heddiw neu yfory mae pawb, ond eisiau gwybod beth yn union sydd o'u blaenau nhw. Maent yn hapus i glywed y bydd popeth yn iawn yr wythnos nesaf neu'r wythnos wedyn, a beth fydd yn digwydd os nad ydyn nhw wedi cael eu tro erbyn hynny.
At y pwysau ar yr NHS wrth i frechu gael ei flaenoriaethu, ydy, mae hynny'n anochel. Mae'n anochel, mae'n siŵr, yn y sefyllfa rydyn ni ynddi hi fod yna beth gohirio yn mynd i fod ar driniaethau a fyddai wedi digwydd fel arall. Dydy o ddim yn ddigon, mae gen i ofn, i glywed bod y Gweinidog yn obeithiol y bydd pethau'n dod yn ôl i drefn wedyn. Wel, na, mae eisiau cynllun clir i ddod â phethau yn ôl i drefn. Ydyn, rydyn ni'n gobeithio y bydd hon yn broses fydd drosodd mewn ychydig wythnosau, ond mae'n rhaid i'r cynllun ynglŷn â sut i ddod yn ôl on track, fel petai, fod yn glir ar gyfer y cyfnod ar ôl hynny. Felly, mi fyddai eglurder ar hynny yn dda.
Yn olaf, rydw innau'n gobeithio'n fawr na fydd angen cyflwyno cyfyngiadau llawer mwy llym yr ochr yma i'r Nadolig am resymau lles pobl, a rhesymau cymdeithasol a rhesymau economaidd hefyd. Mi fyddai'n sicr angen gwybod am gefnogaeth ariannol i fusnesau, ac ati, a fyddai'n dioddef pe bai angen cyfyngiadau ar ôl hynny. Ond dwi yn croesawu'r cyhoeddiadau heddiw ynglŷn â'r cryfhau sydd yna ynglŷn â sawl elfen sylfaenol, rŵan—gwisgo mygydau mewn mwy o lefydd, a chynghori pobl yn gryfach, hefyd—oherwydd er, fel dwi'n dweud, fy mod i, fel pawb, dwi'n siŵr, yn gobeithio gallu osgoi cyfyngiadau uwch am rŵan, all pethau chwaith ddim cario ymlaen cweit fel ag yr oedden nhw, ac mae gan bob un ohonom ni ein rhan i chwarae yn ymateb i'r bygythiad newydd yma.