Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cynnig i gael y brechlyn. Rhowch flaenoriaeth i hyn os gwelwch yn dda. Mae'n un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud i amddiffyn eich hun.
Dirprwy Lywydd, mae hon yn sefyllfa sy'n peri pryder ac yn symud yn gyflym iawn. Ond, ar hyn o bryd, mae nifer yr achosion o omicron sydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru yn dal i fod yn isel, ac rydyn ni'n parhau i ymateb i don delta. Ond, rhaid inni i gyd fod yn barod i weithredu'n gyflym i ddiogelu iechyd pobl. Yn yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws, mae'r Cabinet wedi ystyried pa fesurau amddiffyn sydd eu hangen nawr i ymateb i'r don delta bresennol a'r camau y mae angen inni eu rhoi ar waith i baratoi ac amddiffyn rhag cynnydd mewn achosion yn sgil yr amrywiolyn omicron. Rydyn ni wedi penderfynu newid i gylch adolygu wythnosol, er mwyn gallu monitro'r sefyllfa o ran iechyd cyhoeddus yn ofalus. Am y tro, byddwn yn aros ar lefel rhybudd 0, ond rydyn ni wedi adeiladu ar y mesurau rydyn ni wedi eu cyflwyno yn ystod y pythefnos diwethaf sy'n ymwneud â hunanynysu a theithio rhyngwladol.
Rŷn ni bellach yn cynghori pobl yn gryf i brofi eu hunain ymlaen llaw—hynny yw, i wneud prawf llif unffordd cyn mynd allan i lefydd prysur neu i unrhyw ddigwyddiadau, a hefyd cyn teithio neu cyn ymweld â ffrindiau a theulu. Rŷn ni wedi cyhoeddi canllawiau i fyfyrwyr sy'n paratoi i adael y coleg a'r brifysgol cyn y Nadolig ynglŷn â chymryd profion cyn teithio. Os yw'r prawf yn bositif, arhoswch gartref. Mae angen ichi hunanynysu a threfnu prawf PCR. Rŷn ni wedi gwneud mân newidiadau i'n rheolau i egluro bod rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn sinemâu a theatrau ac yn ystod gwersi gyrru proffesiynol neu brofion gyrru ymarferol. Rŷn ni hefyd yn cynghori pobl yn gryf i wisgo gorchudd wyneb mewn tafarndai a bwytai pan nad ydyn nhw wrth y bwrdd neu ddim yn bwyta neu'n yfed. Rŷn ni wrthi'n gwneud rhai newidiadau technegol i'r pàs COVID. Dylid cymryd profion llif unffordd o fewn 24 awr, yn hytrach na'r cyngor blaenorol o 48 awr. A hefyd o ran y pàs COVID, rŷn ni'n cael gwared ar dystiolaeth o imiwnedd naturiol, yn unol â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yn Lloegr, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno ei chynllun B mewn ymateb i omicron. Rŷn ni'n ystyried sut i gefnogi ymweliadau mwy diogel mewn cartrefi gofal ac ysbytai i sicrhau ein bod ni'n diogelu'r pobl sydd fwyaf agored i niwed.
Dirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod pryderus ac yn un sy'n ansicr i bob un ohonon ni. Rŷn ni wedi wynebu heriau gyda'n gilydd o'r blaen, ac mae angen inni gydweithio gyda'n gilydd nawr, edrych ar ôl ein gilydd a chadw'n gilydd a Chymru yn ddiogel. Diolch yn fawr.