7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 14 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:26, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am fater pwysig diogelwch adeiladau. Mae cryn dipyn o waith wedi ei wneud ar y mater pwysicaf a mwyaf cymhleth hwn ers i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ddiwethaf ym mis Gorffennaf. Rwy'n falch iawn o roi gwybod i chi ein bod ni wedi cyhoeddi ein hymateb i'r Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau heddiw. Cawsom ni 95 o ymatebion, ac rwy'n diolch i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu meddyliau a'u barn. Mae'r ymatebion yn dangos ymrwymiad i newid, cefnogaeth eang i ysbryd a chyfeiriad ein diwygiadau, ac i weithio gyda ni i lunio'r drefn yn y dyfodol.

Ein bwriad ni yw sicrhau mai diogelwch sydd wrth wraidd adeiladau preswyl aml-feddiannaeth, nid dylunio, bod cyfrifoldebau'r rhai sy'n berchen ar adeiladau, yn eu rheoli ac yn byw ynddyn nhw yn glir, a bod preswylwyr yn cael dweud eu dweud. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma, ond byddwch yn dawel eich meddwl y bydd mwy o gyfleoedd i gyfrannu a llunio polisi. Byddaf i'n ysgrifennu at bartneriaid allweddol yn y flwyddyn newydd i'w gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgorau. Rydym ni hefyd yn datblygu gwaith penodol sy'n ymwneud ag ymgysylltu â phreswylwyr a lesddeiliaid a fydd yn elwa ar ein diwygiadau, ac i'r rhai sydd hefyd yn wynebu heriau gwirioneddol nawr gyda diffygion presennol yn eu hadeiladau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod eu safbwyntiau a'u dirnadaeth heb eu hidlo yn cael eu cofnodi a'u hadlewyrchu'n briodol yn y system newydd a'n bod ni'n deall sut orau i gyfleu'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd gyda phasbortau adeiladau a gwaith cysylltiedig. Mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i'r atebion iawn ar gyfer y maes hollbwysig hwn.

Fel y mae'r Aelodau yn ymwybodol, rydym ni wedi manteisio ar y cyfle i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddefnyddio'r cyfle i sicrhau bod agweddau ar eu Bil Diogelwch Adeiladau yn berthnasol i Gymru. Bydd hyn yn helpu i wella'r ffordd y caiff adeiladau preswyl uchel iawn eu dylunio a'u hadeiladu, ac mae'n cyd-fynd â'r cynigion sydd wedi eu nodi gennym ni yn ein Papur Gwyn. Mae Bil Llywodraeth y DU yn cynnwys newidiadau arfaethedig i Ddeddf Mangreoedd Diffygiol 1972, a fydd yn gweld estyniadau i'r amser y mae modd cyflwyno hawliad gerbron y llysoedd am waith adeiladu diffygiol, ac a fydd, mewn rhai achosion, yn cael effaith ôl-weithredol. Rydym ni hefyd wedi gweithio gyda'r Swyddfa Gartref ar Ddeddf Diogelwch Tân 2021, sydd wedi gweld diwygiadau pwysig i Gymru—yn arbennig, mae amlen allanol adeiladau wedi ei chynnwys yn benodol yn y drefn diogelwch tân bresennol.

Yn dilyn cefnogaeth aruthrol i'r cynigion yn ein Papur Gwyn, ysgrifennais at bob awdurdod lleol, awdurdod tân ac achub a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Medi ynghylch sefydlu tîm arolygu ar y cyd a fydd yn cefnogi gweithgareddau gorfodi o ran adeiladau presennol yma yng Nghymru. Bydd y broses o recriwtio'r tîm yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

Mae hyn i gyd yn golygu y bydd dyfodol diogelwch adeiladau yng Nghymru yn gwella'n aruthrol. Er fy mod i wedi fy nghyffroi gan y datblygiadau hyn, rwy'n ymwybodol iawn bod llawer ohonoch chi a'ch etholwyr yn pryderu'n briodol am yr heriau sy'n wynebu lesddeiliaid presennol ar hyn o bryd. Rwyf i wedi dweud dro ar ôl tro na ddylai lesddeiliaid orfod talu'r bil i wneud eu hadeiladau yn ddiogel, ond rwyf i hefyd wedi dweud nad yw'r atebion yn hawdd. Yma yng Nghymru, fel mewn rhai rhannau eraill o'r DU, rydym ni wedi dweud ers y cychwyn fod hyn yn ymwneud â llawer mwy na chladin, ac nid dim ond mater i'r rhai hynny sydd mewn blociau uchel iawn ydyw. Yng Nghymru, rydym ni bob amser wedi bod yn ymwybodol bod hyn yn gofyn am ddull cyfannol, neu bydd perygl o adael pobl yn agored i risg barhaus. Rydym ni'n gwneud cynnydd sylweddol, gan fod yn gyson yn ein huchelgais i ddatrys materion ar y sail gyfannol honno.

Mae'r ymateb i'r gronfa pasbortau diogelwch adeiladau, a gafodd ei lansio'n gynharach eleni, wedi bod yn gadarnhaol iawn, wrth i dros 100 o ddatganiadau o ddiddordeb gael eu cwblhau hyd yma. Caiff y datganiadau o ddiddordeb hyn eu hasesu, a bydd yr arolygon helaeth sydd eu hangen ar yr adeiladau hyn i sicrhau bod gennym ni ddealltwriaeth gyson a chadarn o anghenion pob adeilad unigol a graddfa gyffredinol y dasg yn cael eu dwyn ymlaen. Rydym ni'n penodi contractwyr drwy gronfa sefydledig o ddarparwyr achrededig i gynnal yr arolygon sy'n sicrhau cysondeb o ran arbenigedd ac ansawdd arolygon. Rydym ni'n ymdrin â hyn mewn ffordd gynlluniedig a chydgysylltiedig sy'n rhoi darlun cynhwysfawr o'r materion diogelwch sy'n bresennol, ac yn lleihau straen ac anghyfleustra i breswylwyr. Bydd yr arolygon cyntaf yn dechrau'n gynnar yn y flwyddyn newydd, gan flaenoriaethu'r adeiladau hynny sydd wedi eu nodi fel risg uchel drwy'r broses mynegi diddordeb.

Fodd bynnag, er ein bod ni'n gwneud cynnydd da, rwy'n cydnabod bod y pwysau ariannol o fyw yn yr adeiladau hyn yn mynd yn annioddefol i rai pobl. Nid wyf i'n dymuno gweld dyfodol hirdymor pobl yn cael ei ddifetha gan fethdaliad, cael eu troi allan a digartrefedd posibl. Dyna pam rwy'n ymrwymo i gynllun cymorth lesddaliad newydd i helpu nifer bach o lesddeiliaid sy'n cael eu hunain mewn caledi ariannol sylweddol iawn. Bydd manylion llawn y cynllun yn cael eu darparu yn y flwyddyn newydd, ond rwy'n gobeithio gallu darparu'r dewis, mewn nifer cyfyngedig o achosion, i lesddeiliaid werthu. Bydd y cynllun yn targedu darpariaeth lle mae ei hangen fwyaf mewn adeiladau sydd â diffygion sydd wedi'u nodi lle na all lesddeiliaid unigol werthu eu heiddo ar y farchnad agored ac yn cael eu hunain mewn caledi ariannol sylweddol oherwydd costau cynyddol.

Rwyf yn cloi, Llywydd, drwy ailddatgan fy safbwynt: mae'n rhaid i ddatblygwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am y diffygion adeiladau hyn gamu ymlaen a gwneud mwy i ddatrys yr argyfwng. Nhw greodd y problemau hyn ac maen nhw'n parhau i adael lesddeiliaid yn wynebu caledi ariannol ac yn dioddef o straen a phryder. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf hon yn dangos ymrwymiad parhaus y Llywodraeth hon i ddiogelwch adeiladau a'r gwaith dwys sy'n cael ei wneud. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i'r agenda hon gan Blaid Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â nhw ar y mater hollbwysig hwn wrth symud ymlaen. Diolch.