Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Diolch i chi, Gweinidog. Mae hwnnw'n ddatganiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n diolch i chi am eich ymrwymiad i wneud hyn yn iawn. Nid mater gwleidyddol yw hwn; mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn dymuno ymdrin ag ef a'i wneud yn well i'r trigolion sydd wedi bod yn dioddef cymaint. Rwy'n cydnabod y gwaith da y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud i ymdrin â hyn. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, mae'n fater hynod o gymhleth ac nid yw'n mynd i gael ei ddatrys dros nos, ond rwy'n falch ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad iawn. Gofynnodd Mabon rai o'r cwestiynau y byddwn i wedi eu gofyn, ac rydych chi wedi esbonio hynny, ac rwy'n deall nad oes gennych chi'r holl atebion nawr, ond byddwn ni'n dysgu mwy am y cynllun wrth iddo gael ei gyflwyno yn y gwanwyn.
Mae pwynt arall sy'n gysylltiedig â hyn i gyd yr hoffwn i ei godi, er hynny, Gweinidog, ac mae'n ymwneud â threth trafodiadau tir sy'n cael ei chodi wrth brynu cartref. Mae gan un o fy etholwyr i eiddo amlwg yn natblygiad Celestia. Fe wnaeth brynu cartref teuluol newydd gyda'i bartner yn ôl yn 2019, ac roedd wrthi'n gwerthu ei fflat yr oedd wedi ei brynu ei hun. Roedd yn gwerthu honno i helpu i ariannu ei gartref nesaf, heb unrhyw fwriad i gael ail gartref o gwbl. Fodd bynnag, oherwydd problemau o ran cael y dystysgrif EWS1 honno, wrth i ddatblygwr y bloc fflatiau gadarnhau bod problemau cydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân, nid oedd yr etholwr yn gallu gwerthu'r fflat. Roedd hyn yn golygu y cafodd gyfradd uwch o dreth trafodiadau tir ei chodi arno, gan y barnwyd ei fod yn berchen ar ail eiddo. Roedd y gyfradd uwch hon yn cyfateb i tua £12,000 yn fwy nag y byddai wedi ei chodi yn wreiddiol pe na bai'r mater hwn yn bodoli. I wneud pethau'n waeth, mae'n annhebygol y bydd yn gallu adennill y tâl treth trafodiadau tir uwch, gan fod gwaith adfer yn debygol o gymryd cryn dipyn o amser, ac felly mae unrhyw werthiant yn y dyfodol yn debygol o fynd y tu hwnt i'r cyfnod o dair blynedd ar gyfer hawlio yn ôl y gyfradd uwch o dreth trafodiadau tir.
Yn Lloegr, rwyf i ar ddeall bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu caniatáu estyniad i'r cyfnod y mae modd hawlio yn ôl dreth dir y dreth stamp oherwydd problemau diogelwch tân sy'n achosi problemau o ran gwerthu. Gweinidog, a yw hyn yn rhywbeth y gallech chi ystyried ei gyflwyno o leiaf fel mesur tymor byr i helpu perchnogion tai sy'n cael eu dal yn ôl gan y mathau hyn o faterion? Mae'n rhywbeth, rwy'n meddwl, a fyddai'n ffordd o leddfu ychydig o'r pwysau eraill hynny y mae rhai yn eu hwynebu. Diolch i chi am hynny.