8. Y Cwricwlwm i Gymru — Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 14 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:13, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Mae gan blant yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed ac sy'n caniatáu iddyn nhw lywio'r byd cymhleth yr ydym ni'n byw ynddo—un sy'n wahanol iawn i'r byd y cawsom ni ein magu ynddo. Fel cymdeithas, rydym ni'n dod yn fwyfwy ymwybodol o ddatblygiadau mewn technoleg, gan gynnwys dylanwad cynyddol y cyfryngau cymdeithasol a'r cynnydd yn y defnydd o gyfathrebu a dyfeisiau digidol. Yn y cyd-destun hwn, mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn gymorth pwysig i alluogi dysgwyr i lywio'r newidiadau hyn a'u cadw'n ddiogel rhag niwed.

Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb swyddogaeth bwysig hefyd i ymateb i ystod eang o faterion a heriau brawychus y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, sydd wedi eu hamlygu'n fwy diweddar, boed yn cadw'n ddiogel ar-lein, aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, neu amlygiad plant a phobl ifanc i ddelweddau rhywiol a phornograffi. Mae'n hanfodol bod gan ein dysgwyr ddealltwriaeth o'r materion hyn, ond mae hefyd yn hanfodol ein bod ni'n eu cynorthwyo i fod yn ddiogel mewn amgylchedd cynhwysol sy'n gefnogol i bob plentyn a'n bod ni'n paratoi ein hathrawon a'n hymarferwyr i ymdrin â'r materion hyn. Rydym ni wedi parhau â'r safbwynt y dylai'r holl ddysgu mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn briodol yn ddatblygiadol ac mae'r camau a amlinellir yn y cod yn ganllaw i roi dealltwriaeth i ymarferwyr o'r hyn sy'n debygol o fod yn briodol yn ddatblygiadol. Mae hyrwyddo a chynorthwyo perthnasoedd iach eisoes yn rhan allweddol o'n dull o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae eisoes wedi llywio'r Cwricwlwm i Gymru newydd. Bydd strategaeth ddrafft newydd Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cyd-fynd â'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd a'r canllawiau statudol.

Yn fwy cyffredinol, rydym yn parhau i hyrwyddo perthnasoedd iach yn y ffordd yr ydym yn cefnogi teuluoedd ac unigolion sy'n agored i niwed. Drwy hyrwyddo cysyniad cyson o beth yw perthnasoedd iach, byddwn yn cefnogi ein dull cymdeithas gyfan o roi terfyn ar gam-drin menywod a merched yng Nghymru. Bydd ein strategaeth newydd i atal trais yn erbyn menywod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei chyflawni drwy ddull partneriaeth gwirioneddol, gan gynnwys addysg, iechyd, yr heddlu, gwasanaethau arbenigol, a goroeswyr i greu'r glasbrint ar gyfer gweithredu.

Ar 26 Tachwedd, ysgrifennais at Aelodau'r Senedd, gan rannu'r canllawiau statudol drafft ar addysg cydberthynas a rhywioldeb. Yn y canllawiau hyn, y mae'n rhaid eu darllen gyda'r cod, bydd yr Aelodau'n sylwi ei bod yn glir y dylai'r dull o ymdrin ag addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn gadarnhaol, yn amddiffynnol ac yn ataliol, gan ystyried sut y gellir cynorthwyo dysgwyr i gael yr wybodaeth i adnabod pob math o wahaniaethu, trais, cam-drin ac esgeulustod, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae dolen wedi ei gynnwys mewn pecyn adnoddau i gefnogi ysgolion a lleoliadau ar drais yn erbyn menywod a merched.

Hoffwn i dalu teyrnged yn arbennig a diolch i sefydliadau fel y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, Cymorth i Ferched Cymru ac eraill am eu cefnogaeth barhaus i addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol a'u cyfraniadau dros y misoedd diwethaf wrth i ni gryfhau'r maes dysgu hwn o fewn y canllawiau a'r cod statudol, a fydd yn cefnogi diogelwch dysgwyr drwy eu galluogi i gydnabod perthnasoedd a sefyllfaoedd anniogel neu niweidiol.

Mae adroddiad diweddar Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg yn anodd iawn ei ddarllen, ac mae nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ein cymdeithas ymhlith pobl ifanc yn annerbyniol. Mae hefyd yn glir bod trais yn erbyn menywod a merched yn llawer rhy gyffredin, ac rwyf i'n credu'n gryf y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol yn helpu i gefnogi dysgwyr i ffurfio a meithrin ystod o berthnasoedd iach wedi eu seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd. Tynnodd adroddiad Estyn sylw hefyd at y ffaith bod gan ein disgyblion LGBTQ+ brofiadau personol sylweddol o aflonyddu geiriol, homoffobig. Mae unrhyw fath o fwlio yn gwbl annerbyniol.

Bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei gwireddu, Dirprwy Lywydd, mewn ffordd sy'n gynhwysol, yn unol ag egwyddorion cydraddoldeb. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn gallu gweld eu hunain, eu teuluoedd, eu cymuned a'i gilydd yn cael eu hadlewyrchu ar draws y cwricwlwm ac yn gallu dysgu gwerthfawrogi gwahaniaeth ac amrywiaeth fel ffynhonnell o gryfder. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chynwysoldeb LGBTQ+. Mae hyn yn cyfrannu at gymdeithas gydlynol, deg a chyfiawn sy'n rhoi'r sgiliau am oes i ddysgwyr. Rydym yn glir bod angen arbenigedd, amser ac adnoddau arbenigol ar addysg cydberthynas a rhywioldeb i fod yn effeithiol. Bydd hyn yn sicrhau bod amgylchedd cefnogol yn cael ei greu i alluogi dysgwyr ac ymarferwyr i fod yn ddiogel, er mwyn trafod a dysgu am faterion a allai fod yn sensitif neu'n heriol.

Un o'r prif flaenoriaethau i ni dros y misoedd nesaf fydd cynorthwyo ysgolion a lleoliadau cyn gweithredu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae cynllun cenedlaethol o ddysgu proffesiynol ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gydag ymarferwyr a phartneriaid. Yn gynharach eleni cyhoeddais gyllideb o £100,000 i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb o ansawdd uchel, a fydd yn helpu i ddatblygu hyder a dealltwriaeth athrawon o ran darparu addysg cydberthynas a rhywioldeb gynhwysol o ansawdd uchel. Rydym yn trafod gyda rhanddeiliaid ac ymarferwyr allweddol i nodi unrhyw fylchau ac i gomisiynu adnoddau newydd o ansawdd uchel, pan fo'u hangen, i gefnogi'r gweithredu hwnnw. Bydd ein sgyrsiau rhwydwaith cenedlaethol â'r sector yn gyfle hefyd i drafod y gwaith o weithredu addysg cydberthynas a rhywioldeb ymhellach.

Hoffwn i ddiolch i'r ymarferwyr yn y gweithgor addysg cydberthynas a rhywioldeb am eu gwaith caled ac am eu hymroddiad a'u hymrwymiad i ddatblygu'r cod hwn. Hoffwn i ddiolch hefyd i'r sefydliadau sy'n cynnwys crefydd, hawliau, rhanddeiliaid sy'n cynrychioli buddiannau plant, ac arbenigwyr am gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r cod hwn. Mae llawer gormod ohonoch i'ch enwi'n unigol, ond nid yw fy niolch yn llai personol. Rwyf i mor falch bod y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb hwn yn ennyn cymaint o gonsensws a chefnogaeth o bob rhan o'r gymdeithas ddinesig. Edrychaf ymlaen at y cyfraniadau yn y ddadl ac at ddeialog ag Aelodau ar y maes dysgu pwysig hwn. Diolch yn fawr iawn.