Part of the debate – Senedd Cymru am 6:46 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Gwnaeth Laura Anne Jones gyfraniad agoriadol ac rwy'n credu y byddwn i'n dweud, yn fwy o dristwch nag o ddicter, fy mod i'n anghytuno â bron pob un rhan o'i chyfraniad. Nid wyf i'n credu iddo adlewyrchu realiti'r cod a'r canllawiau statudol sydd ger ein bron yma heddiw o gwbl.
I'w roi ar gofnod, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod Laura Anne Jones a Sam Rowlands yn credu bod y canllawiau wedi eu cyhoeddi neithiwr, bod Darren Millar yn credu eu bod wedi eu cyhoeddi y bore yma, ac nad oedd Gareth Davies yn credu eu bod wedi eu cyhoeddi o gwbl; i'w roi ar gofnod, cawson nhw eu rhannu ag Aelodau, fel sy'n gonfensiynol, ar 26 Tachwedd. Yn gonfensiynol, byddan nhw'n cael eu cyhoeddi ar ôl y ddadl hon gan eu bod yn ymwneud â chod nad yw wedi ei gymeradwyo gan y Senedd hyd yn hyn. Felly, roeddwn i'n dymuno eu cyhoeddi ymlaen llaw, yng ngoleuni'r drafodaeth a oedd yn digwydd ynghylch y cod cyn y ddadl hon. Mae wedi bod ar gael i'r Aelodau am o leiaf bythefnos, ac rwy'n gobeithio y bu hynny o gymorth i'r Aelodau eraill o leiaf.
Mae yna gyfeiriadau niferus, fel y soniais yn fy natganiad agoriadol, at rai o'r pwyntiau yr oedd Laura Anne Jones yn fy herio arnyn nhw. Mae'n glir iawn o'r canllawiau statudol, Dirprwy Lywydd, pa mor bwysig yw deddfwriaeth trais yn erbyn menywod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rhan o'r cynllun hwn, a pha mor bwysig yw'r polisi hwn yn rhan o'n polisi ehangach i ddileu trais yn erbyn menywod a merched. Rwy'n gobeithio i mi wneud hynny'n glir iawn yn fy sylwadau agoriadol ac mae'n sicr yn glir o'r canllawiau statudol. Nododd Laura Anne Jones hefyd fod diffyg cyfeiriadau at bornograffi ac ystrydebau rhyw, rwy'n credu. Ymdrinnir â'r ddau yn benodol, Dirprwy Lywydd, i'w roi ar gofnod, gan gyfeirio at ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dysgwyr o sut mae deunydd rhywiol yn y cyfryngau yn aml yn cynrychioli rhywedd, gweithgareddau rhywiol, ymddangosiad corfforol a pherthnasoedd mewn ffyrdd afrealistig a niweidiol, a'r pwysigrwydd bod dysgwyr yn gwybod sut i ymateb yn ddiogel i ystrydebau rhywedd a rhywiol ac ymddygiad annheg a'u herio. Mae'r ddau wedi eu nodi yn y llythyr a anfonais at yr Aelodau y bore yma, gan ymateb i rywfaint o'r drafodaeth a'r ddadl gyhoeddus.
Dirprwy Lywydd, os caf i, un o'r cyfraniadau pwysicaf y gallwn ni ei wneud yn y Senedd hon yw cymryd y camau hynny gyda'n gilydd sy'n helpu i'n gwneud ni'n genedl fwy cynhwysol, caredig ac iach, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n maddau myfyrdod personol i mi: rwy'n edrych ar y diwygiadau addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd hyn ac yn meddwl faint y byddwn i fy hun wedi elwa ar gwricwlwm a oedd â'r math hwn o addysg wrth ei wraidd, un lle gallai fersiwn iau o fy hun weld ei hun yn cael ei adlewyrchu yn ôl ato, a'r hwb gwych i les, i hunan-barch a'r sicrwydd a ddaw yn sgil hynny. Roedden nhw'n adegau gwahanol, Dirprwy Lywydd, ond os ydym ni wedi ymrwymo yn wirioneddol i roi addysg i'n plant a'n pobl ifanc sy'n caniatáu iddyn nhw weld eu hunain wrth ei wraidd, i'w cadw'n ddiogel rhag niwed a'u galluogi i ddatblygu perthnasoedd iach, yna gadewch i ni gymryd y cam nesaf hwnnw ar y daith honno heddiw. Felly, hoffwn i ddiolch i bawb a fydd yn bwrw eu pleidlais heddiw dros y cod hwn. Mae'n weithred bwysig, Dirprwy Lywydd. I rai ohonom ni, mae Cymru gynhwysol yn fwy nag amcan gwleidyddol; mae'n rhag-amod hanfodol i les ac, yn wir, i ddiogelwch. A, Dirprwy Lywydd, mae'r diwygiadau hyn yn helpu i wireddu hynny i'n holl blant heddiw, ac i genedlaethau'r dyfodol.