Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Weinidog, cafodd rhai sefydliadau trydydd sector gymorth ariannol ychwanegol yn ystod y pandemig i ymateb i'r cyfraddau cynyddol o gam-drin domestig yn ystod y cyfyngiadau symud ac i gynorthwyo llinellau cymorth amrywiol i ymateb i achosion mwy heriol. Nid yw'r pandemig ar ben, ond mae llawer o sefydliadau'n ofni bod y cyllid wedi dod i ben. A all y Gweinidog gynnig ymrwymiad personol i bawb sy'n dal i gael eu cam-drin y bydd adnoddau'n cael eu targedu i helpu i'w nodi ac i ymateb gyda phartneriaeth gryfach fyth gyda'n heddluoedd? Diolch.