Part of the debate – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 22 Rhagfyr 2021.
Diolch, Llywydd, am y cyfle hwn i annerch y Senedd am yr amrywiolyn omicron o'r coronafeirws a'r sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n datblygu'n gyflym. Mae ychydig dros wythnos wedi mynd heibio ers i'r Gweinidog iechyd ddiweddaru Aelodau cyn i'r Senedd dorri am y toriad. Pan siaradodd hi â chi, roedd 32 o achosion o omicron wedi eu cadarnhau ac roedd cyfradd gyffredinol achosion coronafeirws yng Nghymru yn uchel ond yn sefydlog.