Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 22 Rhagfyr 2021.
Diolch i Peter Fox am y pwyntiau hynny. Rwy'n cydnabod, fel y ceisiaf ei wneud bob amser—y pwynt y mae wedi'i wneud—y symiau sylweddol o arian y mae Llywodraeth y DU wedi'u neilltuo ar gyfer ymdrin â'r pandemig. Y pwynt i'w gofio, serch hynny, yw bod hwnnw ar gyfer ymdrin â holl ganlyniadau'r pandemig, nid yn unig yr effaith a welwn ar fusnesau, ond popeth rydym wedi gofyn i'r gwasanaeth iechyd ei wneud: y system olrhain, y rhaglen frechu, y mesurau ychwanegol rydym wedi gorfod eu rhoi ar waith yn y sector cartrefi gofal, y £24 miliwn a gyhoeddodd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog addysg, yn ychwanegol at yr holl arian ychwanegol rydym wedi'i roi i ysgolion a cholegau i gefnogi'r bobl ifanc sy'n wynebu arholiadau y flwyddyn nesaf, a'r ymdrech enfawr a welwyd i gartrefu pobl ddigartref yn ystod y pandemig. Rydym yn darparu miliynau o bunnoedd bob mis i awdurdodau lleol yng Nghymru i ganiatáu iddynt barhau i wneud hynny. Dyna pam y mae gennym £500 miliwn, neu beth bynnag yw'r ffigur heddiw, ar ôl yn ystod chwarter olaf y flwyddyn ariannol hon, oherwydd mae cyllidebu doeth yn dweud nad ydych yn defnyddio'r holl arian sydd gennych ar y diwrnod cyntaf—rhaid ichi rannu'r arian fesul tipyn. A diolch byth ei fod gennym, gan mai dyna sut ein bod wedi gallu cyhoeddi'r £120 miliwn.
Rhaid imi ddweud yn garedig wrth yr Aelod, oherwydd gwn ei fod yn gwylio'r pethau hyn yn agos, nad yw'r £270 miliwn gan Lywodraeth y DU yn arian ychwanegol; gallu ydyw i dynnu arian ymlaen y maent eisoes wedi'i ddarparu i ni, ac os byddwn yn ei ddefnyddio yn awr efallai na fydd ar gael i ni yn y dyfodol. Bydd hynny'n dibynnu ar benderfyniadau gwario a wneir yn Lloegr, yn hytrach na phenderfyniadau gwario a wneir yng Nghymru. Felly, nid arian ychwanegol syml ydyw o gwbl. Y ffaith ein bod wedi cynnal ein hadnoddau fel bod gennym arian wrth gefn o hyd yn y chwarter diwethaf hwn yw'r hyn sydd wedi ein galluogi i fwrw ymlaen a gwneud y cyhoeddiadau hynny yn ystod y dyddiau diwethaf ar gyfer y sector chwaraeon, ar gyfer y sector diwylliannol ac yn awr ar gyfer busnesau'n fwy eang. Byddwn yn gwneud dyraniadau pellach, rwy'n gwbl siŵr, i helpu'r gwasanaeth iechyd i dalu am raglen bigiadau atgyfnerthu gyflymach ac i helpu eraill a fydd ag anghenion nad ydynt wedi gallu cyllidebu ar eu cyfer oherwydd effaith omicron yn y misoedd sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol hon.