Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 22 Rhagfyr 2021.
Dwi’n deall bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi bod gemau cynghreiriau Cymru—rhai adran ac ardal—yn cael eu gohirio am y tro gan nad ydy 50 o gefnogwyr yn mynd i fod yn ddigon i’r gemau fod yn gynaliadwy yn ariannol. Rŵan, mi fydd hyn yn creu rhwystredigaeth fawr i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr, ond hefyd yn creu problemau llif arian. Allwch chi egluro pa gymorth ariannol fydd ar gael ar gyfer y clybiau fydd yn cael eu heffeithio—y clybiau mawr, ond hefyd y clybiau bach, fel y rhai sydd yn etholaeth Arfon?