1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 22 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:21, 22 Rhagfyr 2021

A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi hwyluso'r cyfarfod yma'r prynhawn yma—y staff sydd wedi gweithio i sicrhau bod y cyfarfod yn gallu gweithredu mor effeithiol, gydag one notable exception, sef fy mand llydan i yn Aberaeron? Ond nid bai staff oedd hwnna. A gaf i hefyd ddiolch ymlaen llaw i bawb fydd yn gweithio yng Nghymru, drwy Gymru i gyd, drwy'r Nadolig yma, i'n cadw ni i gyd yn saff, ac fe fydd hynny siŵr o fod yn cynnwys rhai ohonoch chi sydd yn y cyfarfod yma hefyd? Felly, gobeithio y bydd pawb yn edrych ar ôl eu hunain, edrych ar ôl eu teuluoedd a'u ffrindiau a'u cymunedau, ac mi wnaf i edrych ymlaen at eich gweld chi, gobeithio, yn y flwyddyn newydd. Pob hwyl. Nadolig llawen i chi i gyd.