Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 11 Ionawr 2022.
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn cyntaf yna. Mae absenoldebau staff, ynghyd â phwysau'r gaeaf a chynnydd mewn achosion o COVID, wedi arwain at heriau sylweddol i fyrddau iechyd ledled Cymru. Mae gan bob bwrdd iechyd, gan gynnwys y rhai yn y de-ddwyrain, gynlluniau ar waith i gynyddu capasiti o ran lle a chysoni'r adnoddau dynol sydd ar gael â'r anghenion clinigol mwyaf brys.