Pwysau ar GIG Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 11 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 1:41, 11 Ionawr 2022

Diolch, Prif Weinidog. Dros yr wythnos diwethaf, mae tri o bobl yn fy rhanbarth wedi cysylltu â mi ynglŷn â phroblemau yr oeddent wedi wynebu yn cael ambiwlans i gymydog neu aelod o'r teulu. Mewn un achos, roedd y person yn cael trawiad ar y galon ac fe ddywedwyd wrth ei chymydog nad oedd ambiwlans am hyd at chwe awr a bod angen canfod ffordd amgen i'w chael i'r ysbyty. Fe roddwyd y ffôn i lawr arni gan ddweud bod mwy o alwadau ffôn yn dod drwyddo, gan adael i'r cymydog orfod ffonio o gwmpas i geisio canfod rhywun i fynd â'r person i'r ysbyty. Wrth lwc, llwyddwyd i gael lifft, ac fe gafodd y person driniaeth frys ac mae hi bellach gartref yn gwella. Ond byddai wedi bod yn stori wahanol iawn pe na byddai rhywun wedi bod ar gael i fynd â hi. Pa gefnogaeth sydd yn cael ei rhoddi gan Lywodraeth Cymru i'r gwasanaeth ambiwlans a'n hysbytai i sicrhau bod gwasanaeth ar gael i fynd â phobl mewn sefyllfa argyfyngus i'r ysbyty, yn arbennig mewn ardaloedd lle nad oes canran uchel o berchnogaeth ar geir na thrafnidiaeth gyhoeddus neu dacsis ar gael yn rhwydd?