Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 11 Ionawr 2022.
Prif Weinidog, mae'n amlwg bod GIG Cymru o dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, ond rydym hefyd yn ymwybodol y bu GIG Cymru, mewn cyfnod cyn y pandemig, dan bwysau sylweddol ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Wrth gwrs, mae angen i ni leddfu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys drwy annog y defnydd o wasanaethau eraill, fel unedau mân anafiadau a defnyddio fferyllfeydd, cyflwyno canolfannau llawfeddygol rhanbarthol i ymdrin â'r ôl-groniad o driniaeth, a hefyd ei gwneud yn llawer haws cael gafael ar wasanaethau meddygon teulu. Prif Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd yr wyf newydd eu hamlinellu?