Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 11 Ionawr 2022.
Prif Weinidog, gosodwyd cyfyngiadau yng Nghymru yn seiliedig ar y modelu ac felly dylech fod yn seilio'r broses o lacio ymhellach ar y modelu. Nid oes gennych unrhyw esgusodion i beidio â darparu cynllun o'r fath, Prif Weinidog. Mae'n hanfodol i fusnesau sy'n teimlo'r boen gyda chyfyngiadau ar letygarwch ac iechyd meddwl yn dioddef yn sgil llai o chwaraeon, bod cynllun i ddod allan o'r cyfyngiadau hyn yn cael ei gyflwyno gan eich Llywodraeth. A wnewch chi gadarnhau heddiw y byddwch yn gwrando ar y galwadau hyn ac yn darparu llwybr allan o'r cyfyngiadau yn eich adolygiad ddydd Gwener?