Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 11 Ionawr 2022.
Diolch i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Mae argyfwng costau byw'r Torïaid eisoes yn realiti i filoedd o deuluoedd Cymru. Fel y dywedais i yn gynharach, Llywydd, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi dewis cymryd £20 bob wythnos i ffwrdd oddi wrth y teuluoedd tlotaf yn y wlad a thorri ei haddewidion etholiadol i bensiynwyr, wrth i brisiau tanwydd a chwyddiant saethu i fyny.