Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 11 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:35, 11 Ionawr 2022

Diolch i Paul Davies am y cwestiwn. Yn ogystal â’i holl wasanaethau eraill, mae’r bwrdd iechyd wedi cynnal rhaglen pigiadau atgyfnerthu lwyddiannus dros gyfnod heriol iawn y Nadolig a’r flwyddyn newydd. Mae’n parhau i ddarparu’r gweithgareddau sydd â’r angen clinigol mwyaf brys, a hynny gyda chynnydd mewn salwch ymysg staff a chleifion oherwydd ton omicron o’r coronafeirws.