Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 11 Ionawr 2022.
Diolch. Nid wyf i wedi siarad â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ers i mi wneud hynny ar y cychwyn yn dilyn eich cwestiwn chi i mi, Heledd Fychan. Yn sicr, byddaf i'n gofyn iddi a yw'n bosibl rhoi llinell amser ddangosol. Yn amlwg, mae dadl y prynhawn yma ar reoliadau COVID—ni wn i a gewch chi'r cyfle, ond yn sicr, byddaf i'n gofyn iddi edrych ar pryd y byddwn ni'n gallu cyflwyno'r wybodaeth honno.