Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 11 Ionawr 2022.
Diolch. Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Yn amlwg, mae effaith COVID ar unigolion sydd wedi dioddef yn amrywiol iawn, felly mae'n arbennig o bwysig ein bod ni'n parhau i gefnogi ein gweithlu, sydd, fel y dywedwch chi, wedi gwneud cymaint, a gofynnaf i'r Gweinidog roi datganiad ysgrifenedig i ni.