3. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2022-23

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 11 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:00, 11 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Pleser i mi yw gwneud datganiad ar gyllideb ddrafft 2022-23 a gyflwynwyd ar 20 Rhagfyr—y gyllideb aml-flwyddyn gyntaf ers 2017.

A ninnau ar ddechrau blwyddyn newydd, hoffwn i fyfyrio ar yr amgylchiadau a lywiodd ein paratoadau, ynghyd ag edrych ymlaen hefyd at yr hyn y bydd y gyllideb hon yn ei gyflawni. Nid yw effeithiau parhaus ymadawiad y DU â'r UE, y pandemig, gan gynnwys dyfodiad omicron, a'r argyfwng hinsawdd a natur—nid ydym ni wedi wynebu amgylchiadau fel y rhain erioed o'r blaen. Nid ydym ni wedi dianc rhag cysgod hir cyni chwaith. Er ein bod ni wedi croesawu'r setliad aml-flwyddyn gan Lywodraeth y DU, nid yw hwnnw wedi gwireddu ei hun ar gyfer Cymru. Bydd ein cyllideb yn 2024-25 bron i £3 biliwn yn is na phe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010-11. Rhwng 2022-23 a 2024-25, mae ein cyllid adnoddau yn cynyddu lai na hanner y cant mewn termau real. Mae cyllid cyfalaf cyffredinol yn gostwng mewn termau arian parod ym mhob blwyddyn o gyfnod yr adolygiad o wariant ac mae'n 11 y cant yn is yn 2024-25 nag yn 2021-22.

Rydym ni hefyd yn wynebu Llywodraeth yn y DU sydd wedi torri ei haddewidion ac sy'n benderfynol o ymosod ar ddatganoli, a chymryd pwerau a chyllid yn ôl—ymhell iawn o'i rhethreg ynglŷn â chodi'r gwastad a diogelu'r undeb. O dan gronfa adnewyddu cymunedol Llywodraeth y DU, dim ond £46 miliwn y bydd Cymru'n ei gael eleni, o'i gymharu ag o leiaf £375 miliwn y byddem ni wedi ei gael o gronfeydd strwythurol yr UE o fis Ionawr 2021. Mae Llywodraeth y DU wedi cefnu hefyd ar etifeddiaeth ddiwydiannol y pyllau glo a oedd yn rhagflaenu datganoli. Ac eto, ar yr un pryd, mae gennym ni lawer i fod yn gadarnhaol yn ei gylch. Rwy'n awyddus i gydnabod yr ymdrech aruthrol y mae pawb wedi ei wneud wrth ymateb i'r heriau yr ydym ni wedi eu hwynebu. Er gwaethaf y cyd-destun, rydym ni wedi defnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i ni, nid yn unig i gefnogi Cymru heddiw, ond i lunio dyfodol sy'n gryfach, yn decach ac yn wyrddach na'r hyn a fu o'r blaen.

Mae cydweithrediad yn parhau i fod wrth wraidd ein dull o weithredu ac rydym ni wedi dweud yn eglur bob amser nad oes gennym ni fonopoli ar syniadau da. Rydym ni wedi llunio cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a gellir gweld blaenoriaethau hwnnw yn eglur yn y gyllideb hon. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol mewn meysydd blaenoriaethau cyffredin sy'n trysori ein treftadaeth gyfoethog a'n diwylliant. Rwyf i wedi gwrando'n astud hefyd ar syniadau a gyflwynwyd gan Jane Dodds. Er nad oes gennym ni gytundeb ffurfiol, rwyf i wedi cytuno i sefydlu cronfa newydd gwerth £20 miliwn, i helpu i gyflawni diwygiadau hanfodol i wasanaethau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Rwy'n falch hefyd o weithredu ar y ddadl adeiladol a gawsom ni cyn toriad yr haf, ar 13 Gorffennaf. Fe welwch chi lawer o'r blaenoriaethau a nododd cyd-Aelodau yn y ddadl honno yn cael eu hadlewyrchu yn ein cyllideb. Mae'r rhain yn cynnwys blaenoriaethu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus; ariannu ar gyfer tai a mynd i'r afael â digartrefedd; cyllid i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol o fis Ebrill 2022; buddsoddiad sylweddol yn ein hymateb ni i'r argyfwng hinsawdd a natur; cydnabod swyddogaeth addysg; a'r angen i gefnogi teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd.

Bydd y gyllideb hon yn symud Cymru ymlaen. Rwyf i wedi cyflawni fy addewid i flaenoriaethu cyllid ar gyfer iechyd, awdurdodau lleol a gofal cymdeithasol. Dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn dal ati i ddiogelu, ailadeiladu, a datblygu ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydym ni'n buddsoddi £1.3 biliwn ychwanegol yn ein GIG yng Nghymru i ddarparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy, ac yn helpu i adfer ar ôl y pandemig. Byddwn yn sefyll gyda'n hawdurdodau lleol gyda bron i dri chwarter biliwn o bunnoedd ychwanegol yn y setliad llywodraeth leol, gan ddarparu cyllid ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau hanfodol eraill. Yn ogystal â £60 miliwn o gyllid ychwanegol yn uniongyrchol, yn 2022-23 yn unig byddwn yn darparu dros £250 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys £180 miliwn yn y setliad llywodraeth leol i fwrw ymlaen â diwygiadau ehangach i roi sail gynaliadwy hirdymor iddo.

Mae'r pandemig wedi achosi argyfwng iechyd meddwl hefyd. Yn ogystal â'r buddsoddiad uniongyrchol yn y GIG, byddwn yn buddsoddi £100 miliwn ychwanegol wedi ei dargedu at iechyd meddwl, gan gynnwys mwy na £10 miliwn ar gyfer plant a phobl ifanc, gan gydnabod risgiau'r effeithiau parhaol a hirdymor y mae ein pobl ifanc yng Nghymru yn eu teimlo.