Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 11 Ionawr 2022.
Byddwn yn adeiladu economi gryfach a gwyrddach, gan gynnwys dros £110 miliwn mewn rhyddhad ychwanegol o ardrethi annomestig i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden, a lletygarwch. Ni allwn ni anwybyddu'r effeithiau dinistriol ac anghyfartal y mae'r pandemig wedi eu cael ar bobl Cymru, ac ni fyddwn yn gwneud hynny. Byddwn yn parhau i ddathlu amrywiaeth ac yn symud i ddileu anghydraddoldeb o bob math, gan gynnwys drwy fuddsoddiad o £10 miliwn yn ein cynllun treialu incwm sylfaenol, i brofi manteision mynd i'r afael â thlodi, diweithdra, a gwella llesiant.
Wrth i unigolion barhau i deimlo effeithiau'r pandemig a newidiadau i gredyd cynhwysol, mae pobl a theuluoedd sy'n agored i niwed ledled Cymru yn troi at ein cronfa cymorth dewisol am gymorth ychwanegol. Byddwn yn buddsoddi £7 miliwn ychwanegol i ateb y galw parhaus hwn, gan roi cymorth i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.
Mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar ac mewn addysg yn parhau i fod yn un o'n hysgogiadau mwyaf grymus. Rydym yn buddsoddi £320 miliwn ychwanegol yn ein diwygiadau addysg hirdymor, gan sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau yn codi. Mae hyn yn cynnwys £90 miliwn, yn ein blaenoriaeth ar y cyd â Phlaid Cymru, i sicrhau bod 196,000 yn fwy o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru.
Byddwn yn adeiladu economi sydd wedi ei seilio ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd, gan gynnwys £61 miliwn ychwanegol ar gyfer ein gwarant i bobl ifanc, cymorth cyflogadwyedd a darpariaeth brentisiaethau, gan helpu pobl i gael gwaith er mwyn iddyn nhw allu ennill cyflog da, a chynnig llwybr allan o dlodi yn ogystal ag amddiffyn rhag hynny.
Mae'r byd i gyd yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur sy'n gofyn am ymatebion brys a radical, a gall Cymru fod â rhan yn hynny. Rwyf i wedi cyflawni fy addewid i ddefnyddio strategaeth 10 mlynedd newydd Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith er mwyn cryfhau'r cysylltiad rhwng seilwaith a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Trwy gynnal adolygiad sylfaenol ar sail sero net, rwyf i wedi cyhoeddi cynllun tair blynedd newydd i ariannu seilwaith, sydd wedi ei ategu gan £8 biliwn o wariant cyfalaf, gan gynnwys defnydd llawn o'n pwerau benthyca cyfalaf gwerth £450 miliwn.
Ochr yn ochr â phecyn refeniw ychwanegol o £160 miliwn, wrth wraidd y cynllun hwn y mae buddsoddiad gwerth cyfanswm o £1.8 biliwn yn ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae hyn yn cynnwys £57 miliwn i gefnogi'r gwaith o gyflawni coedwig genedlaethol sy'n ymestyn o'r gogledd i'r de; £90 miliwn i wella mannau gwyrdd ar bob graddfa a sicrhau ein bod ni'n cyflawni ein cyfrifoldebau rhyngwladol presennol ni a'r rhai sy'n dod i'r amlwg o ran bioamrywiaeth; £580 miliwn i hybu'r gwaith o ddatgarboneiddio ein stoc o dai cymdeithasol; bydd £100 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a darparu cartrefi cynnes; £90 miliwn i gyflawni ein huchelgeisiau o ran ynni adnewyddadwy; a £102 miliwn i ddarparu amddiffyniad ychwanegol rhag llifogydd i fwy na 45,000 o gartrefi, gan gyflwyno atebion sydd wedi eu seilio ar natur ledled Cymru.
Yn wahanol i Lywodraeth y DU, byddwn yn sefyll gyda'n cymunedau drwy fuddsoddiad o £44.4 miliwn mewn diogelwch tomenni glo a chymorth i'w gwella, eu hadfer, a'u haddasu at ddiben arall. Rydym yn buddsoddi dros £1 biliwn mewn ffermio a datblygu gwledig, a fydd yn cefnogi gwelliannau amgylcheddol, rheoli tir a'n cymunedau gwledig. Mae hyn yn cynnwys refeniw ychwanegol o £85 miliwn a chyfanswm cyfalaf o £90 miliwn, gan neilltuo'r cyllid fferm yr ydym wedi ei gael yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE.
O dan ein cynllun cyllid seilwaith newydd, byddwn yn buddsoddi yn agos at £1.6 biliwn o gyfalaf yn ein blaenoriaethau o ran tai hefyd, gan gynnwys £1 biliwn i gefnogi ein hymrwymiad allweddol i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu; £375 miliwn i alluogi buddsoddiad hirdymor mewn diogelwch adeiladau, gan gefnogi gwaith ar ddiwygio ac adfer hirdymor; dros £1.3 biliwn o gyfalaf i ddarparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy; £1 biliwn o gyfalaf mewn addysg, Dechrau'n Deg, gofal plant, a darpariaeth blynyddoedd cynnar, gan gynnwys £900 miliwn i ddatblygu ysgolion a cholegau sero net o ran carbon, gan sicrhau eu bod yn y lleoliadau priodol i ddiwallu anghenion lleol; £750 miliwn mewn darpariaeth rheilffyrdd a bysiau, gan gynnwys darparu metro de Cymru; a £210 miliwn i gefnogi'r Gymraeg, a sicrhau ffyniant ein diwydiannau twristiaeth, chwaraeon a'r celfyddydau.
Rwyf i'n defnyddio ein pwerau treth datganoledig hefyd i helpu adferiad Cymru, gan adeiladu ar ein dull gweithredu neilltuol i Gymru, gan gynnwys ein hymrwymiad i wneud trethi yn decach drwy ddiwygio'r dreth gyngor. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i beidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru cyhyd ag y bydd effeithiau economaidd y pandemig yn parhau. Er mwyn lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth gwastraff, byddaf yn cynyddu cyfraddau treth gwarediadau tir yn unol â'r lefelau chwyddiant a ragwelir. I gefnogi ein buddsoddiad mewn tai cymdeithasol, byddaf yn cadw'r cyfraddau preswyl uwch o dreth trafodiadau tir ar 4 pwynt canran.
Rwyf i wedi cyhoeddi hefyd gynllun gwella cyllideb wedi ei ddiweddaru, sy'n amlinellu'r cynnydd ar ein prosesau o ran cyllideb a threth, ac rydym ni wedi parhau i ganolbwyntio ar ein huchelgeisiau tymor hwy. Rydym ni wedi cynnal yr adolygiad gwariant aml-flwyddyn cyntaf ers 2015, gan ymgysylltu â Llywodraethau blaenllaw eraill yn rhyngwladol ynglŷn ag ymgorffori llesiant. Rydym yn bwrw ymlaen â dau gynllun treialu newydd yn ymwneud â chyllidebu ar sail rhyw ac rydym ni wedi sefydlu strategaeth buddsoddi mewn seilwaith 10 mlynedd newydd i Gymru, gan barhau â'n diwygiadau o ran sut yr ydym yn asesu effeithiau carbon.
Felly, wrth gloi, rwy'n falch bod y gyllideb hon yn cyflawni ein gwerthoedd, gan osod y sylfaen ar gyfer ein hadferiad a rhoi cyfeiriad i'n taith ni tuag at Gymru sy'n gryfach, yn decach ac yn wyrddach. Diolch.