Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 11 Ionawr 2022.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi y bydd £0.4 biliwn ar gael ledled y DU ar y gronfa ffyniant gyffredin yn 2022-23, £0.7 biliwn yn 2023-24, a £1.5 biliwn yn 2024-25. Felly, yn amlwg, yn ôl amcangyfrif unrhyw un, rydym ni'n cael ein hamddifadu'n llwyr o'r £375 miliwn y byddem ni wedi'i gael yn flynyddol drwy'r UE pe baem ni wedi aros ynddo a phe bai Llywodraeth y DU wedi cadw ei haddewid na fyddem yn geiniog yn waeth ein byd.
Soniodd Llyr Gruffydd hefyd am ariannu ffermydd, ac mae hynny'n faes arall lle mae Llywodraeth y DU wedi ein siomi'n wael. Bydd ein cymunedau gwledig a'n ffermwyr ar eu colled o leiaf £106 miliwn o gyllid newydd yr UE dros gyfnod yr adolygiad o wariant, ar ben y £137 miliwn nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu ar ei gyfer yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, rydym yn anghytuno'n llwyr â haeriad Llywodraeth y DU ei bod wedi cyflawni ei rhwymedigaethau i ddarparu cyllid newydd i ffermwyr a datblygu gwledig drwy gyfuniad o arian newydd o'r adolygiad o wariant a gweddill cyllid Cymru o'r UE. Mae'n ffordd wirioneddol anniffuant o ddisgrifio'r ffordd y maen nhw'n darparu cymorth i'n cymunedau gwledig, ac, unwaith eto, bydd yn cael gwir effeithiau ar gymunedau ffermio ledled Cymru.
Roedd cyfeirio hefyd at fater benthyca, ac mae hwn eto'n faes lle gallem ni'n sicr gynllunio'n well a gallem ni wneud y gorau o'n gallu benthyca pe bai gennym fwy o hyblygrwydd. Mae ein cyllideb ddrafft yn adlewyrchu ein cynlluniau i fanteisio i'r eithaf ar fenthyca cyfalaf, gan dynnu i lawr y swm mwyaf blynyddol o £150 miliwn y flwyddyn, gan fenthyca £450 miliwn ychwanegol hyd at 2024-25, a dyna'r mwyaf y gallwn ni ei gael ar hyn o bryd o fewn y fframwaith cyllidol. Felly, hoffem ni gynyddu maint y benthyca blynyddol y gallwn ni ei gael, a hefyd maint y benthyca drwyddo draw y gallwn ni ei gael. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau gyda Llywodraeth y DU. Nid ydym ni'n gwneud unrhyw gynnydd ar hyn o bryd, ond bydd dal dadleuon yr ydym ni'n parhau i'w gwneud ochr yn ochr â chyd-Aelodau yn y Llywodraethau datganoledig eraill. Ond byddaf i'n ychwanegu ein bod ni bob amser, yn ein cyllidebau, yn bwriadu tynnu'r benthyciad llawn i lawr. Mae'r rheswm pam nad yw'n cael ei ddyrannu ar ddiwedd y flwyddyn yn ganlyniad i newidiadau hwyr yn y flwyddyn wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU sy'n effeithio ar ein cyllideb gyffredinol.
Rwyf i hefyd yn tynnu sylw cyd-Aelodau at y ffaith ein bod ni, am y tro cyntaf eleni, yn defnyddio gor-ddyranu cyfalaf cyffredinol, fel y bydd hynny'n ein helpu i ymestyn pob punt o gyllid cyfalaf sydd ar gael ymhellach, a gobeithio y bydd yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni ddarparu hyblygrwydd i ni ein hunain yn absenoldeb hwnnw gan Lywodraeth y DU.
Rwyf i wedi sôn am fenthyca, felly gwnaf i hefyd sôn am dreth. Mae ein cyllideb ddrafft yn defnyddio rhagolygon treth sy'n cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagolygon trethi Cymru, a gyda'i gilydd, bydd CTIC, treth trafodiadau, treth gwarediadau tirlenwi ac ardrethi annomestig yn cyfrannu tua £3.9 biliwn at gyllideb Llywodraeth Cymru yn 2022-23, ac mae hynny'n codi i £4.3 biliwn yn 2024-25. Dyma'r gyllideb aml-flwyddyn gyntaf ers datganoli trethi, felly mae'n bwysig nodi bydd rhagolygon y dyfodol nid yn unig yn effeithio ar reoli cyllidebau yn ystod y flwyddyn yn 2022-23, ond hefyd ar y rhifyddeg gyllidebol gyffredinol ar gyfer 2023-24 a 2024-25, a gwn i y byddwn ni'n trafod hynny gyda'r Pwyllgor Cyllid maes o law. Ond mae wir yn mynegi, rwy'n credu, yr angen i barhau â'n hymdrechion i dyfu ein sylfaen drethi yng Nghymru, a gallwch chi weld enghreifftiau drwy gydol y gyllideb ynghylch sut yr ydym ni'n bwriadu gwneud hynny. Byddai'r cyfrifon dysgu personol yn un enghraifft dda iawn o sut yr ydym ni'n bwriadu cefnogi pobl a pharhau i gefnogi pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm. Felly, rwy'n credu bod hynny'n faes y gallwn ni fod yn falch iawn ohono, ac yn faes, mewn gwirionedd, lle yr ydym ni wedi bod yn gwneud gwaith da iawn o ran cyllidebu ar sail rhywedd, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfleoedd i drafod hynny ymhellach mewn pwyllgorau.
Byddaf i'n ymateb i rai o'r prif feysydd polisi y cyfeiriwyd atyn nhw yn y ddadl—gofal cymdeithasol, wrth gwrs, yw un. Felly, rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gofal cymdeithasol gyda'r cyllid sydd ei angen arno. Yn ogystal â'r buddsoddiad drwy'r grant cynnal refeniw, rydym ni'n darparu £60 miliwn o gyllid ychwanegol i hyrwyddo diwygiadau ehangach i'r sector a'i roi ar y sylfaen gynaliadwy honno ar gyfer y dyfodol. Yn 2022-23 yn unig, rydym ni'n darparu dros £250 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ac mae hynny'n cynnwys £180 miliwn sydd wedi'i ddarparu yn y setliad llywodraeth leol, buddsoddiad uniongyrchol o £45 miliwn, ynghyd â £50 miliwn o gyfalaf gofal cymdeithasol ychwanegol o'i gymharu â 2021-22. Ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, i ddeall faint o arian y byddai ei angen i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol, felly rwy'n falch ein bod ni wedi gallu rhoi'r flaenoriaeth y mae'n ei haeddu. Ac ochr yn ochr â hyn, wrth gwrs, o ran cyfalaf, yn 2024-25 byddwn ni'n buddsoddi cyfanswm o £110 miliwn o gyfalaf mewn gofal sylfaenol a chymunedol i gefnogi ein gweledigaeth ar gyfer seilwaith integredig a hygyrch. Ac rydym ni'n buddsoddi £180 miliwn i gefnogi amrywiaeth o raglenni gofal cymdeithasol i fuddsoddi mewn seilwaith gofal preswyl a'i wella, a hefyd i gefnogi buddsoddiad yn y canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig newydd. Felly, mae llawer o waith cyffrous yn digwydd yn y meysydd hynny.