Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 11 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr hyn sy'n parhau i fod yn sefyllfa iechyd y cyhoedd ddifrifol iawn. Ers i'r Senedd gael ei galw yn ôl cyn y Nadolig, mae'r sefyllfa yng Nghymru wedi newid. Mae'r don omicron wedi cyrraedd, fel y rhagwelwyd, ac mae'n achosi salwch i lawer iawn o bobl. Mae hyn yn amharu ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y GIG, ar adeg brysuraf y flwyddyn.
Dirprwy Lywydd, byddaf yn dechrau trwy nodi'r sefyllfa iechyd y cyhoedd o ran y ffeithiau a'r ffigurau diweddaraf. Ychydig cyn y Nadolig, pan oedd delta y ffurf amlycaf o’r feirws, roedd y gyfradd achosion yn uchel ond yn sefydlog ar ryw 500 o achosion fesul 100,000 o bobl. Yn sgil dyfodiad omicron mae cyfraddau wedi cyflymu i lefelau nad ydym ni wedi eu gweld o'r blaen yn y pandemig. Roedd gennym ni gyfraddau o fwy na 2,300 o achosion fesul 100,000 o bobl yr wythnos diwethaf; ddoe, roedd 1,780. Ond dylem ni fod yn ofalus cyn tybio ein bod ni wedi cyrraedd uchafbwynt a bod y gwaethaf ar ben. Bydd y newidiadau yn y drefn brofi yn effeithio ar niferoedd achosion a'r ffaith nad ydym ni'n ei gwneud yn ofynnol i bawb sy'n profi'n bositif ar brawf llif unffordd gymryd prawf PCR i gadarnhau mwyach. Mae'r newid hwn i'r drefn brofi yn golygu bod yn rhaid i ni ddibynnu ar ystod ehangach o fesurau i ddeall natur y don.
Mae cyfran yr achosion sy'n profi'n bositif yn parhau i fod tua 50 y cant. Mae canlyniadau diweddaraf arolwg heintiau y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod un o bob 20 o bobl wedi eu heintio, ac mae ein data ein hunain ynghylch nifer y derbyniadau i ysbytai yn dangos bod nifer y derbyniadau COVID-19 yn parhau i godi, er bod y niferoedd yn llawer is nag mewn tonnau blaenorol. Mae cyfanswm y bobl yn yr ysbyty sydd â COVID-19 bellach ychydig dros 1,000—y lefel uchaf ers 11 Mawrth. Ond gallai fod yn wythnos arall cyn i ni weld achosion yn cyrraedd uchafbwynt.
Mae rhywfaint o dystiolaeth obeithiol bod omicron yn llai difrifol na delta, ond mae'r cynnydd yn nifer y derbyniadau i ysbytai a pha mor gyflym y mae'n teithio yn parhau i beri pryder. Roeddem ni'n gwybod y byddai niferoedd yr achosion yn codi'n gyflym iawn, roeddem ni'n gwybod y byddai hyn yn rhoi'r GIG dan bwysau, ac y byddai hefyd yn rhoi gwasanaethau cyhoeddus eraill dan bwysau ac yn rhoi pwysau ar staff mewn busnesau masnachol a manwerthu. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos absenoldebau staff ar draws y GIG, o ganlyniad i COVID, hunanynysu ac afiechydon eraill, a oedd ychydig dros 8 y cant yr wythnos diwethaf, ond mewn rhai sefydliadau GIG mae'n fwy na dwywaith hyn. Yn anffodus, mae hyn yn golygu bod rhai apwyntiadau a thriniaethau yn cael eu gohirio a bod staff yn cael eu trosglwyddo i weithio mewn gwasanaethau brys ac argyfwng. Mae rhannau eraill o'r sector cyhoeddus wedi nodi lefelau tebyg ac yn cyflwyno cynlluniau wrth gefn sifil i symud staff i ddiogelu gwasanaethau hanfodol.
Dirprwy Lywydd, fe wnaethom ni gymryd camau cynnar i gyflwyno mesurau diogelu i gadw Cymru'n ddiogel ac i gadw Cymru ar agor, yn unol â chyngor gan ein grŵp cynghori technegol a Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau. Rydym ni ar lefel rhybudd 2 ac rydym ni wedi cryfhau canllawiau i gefnogi pobl i gadw'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Rydym ni'n adolygu'r sefyllfa a'r mesurau lefel rhybudd 2 yn gyson. Rydym ni wedi gwneud rhai newidiadau ychwanegol, yn gyntaf i'r rheolau hunanynysu, gan leihau'r cyfnod hunanynysu o 10 i saith diwrnod i'r bobl hynny sydd â dau brawf llif unffordd negatif yn olynol ar ddiwrnodau 6 a 7. Mae'r penderfyniad i newid y cyfnod hunanynysu yn adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf o ran am ba mor hir y gall pobl drosglwyddo'r feirws ac mae'n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a chadwyni cyflenwi yn ystod y gaeaf, wrth barhau i gyfyngu ar ledaeniad y feirws ar yr un pryd. Mae'r newid cyntaf i'r drefn brofi yn golygu y dylai pobl nad ydyn nhw wedi eu brechu, sydd wedi bod mewn cysylltiad ag achos positif ac sy'n hunanynysu am 10 diwrnod bellach wneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8, yn hytrach na phrawf PCR.
Ac, ynghyd â chenhedloedd eraill y DU, rydym ni wedi cytuno os yw person yn cael prawf llif unffordd positif, na fydd yn cael ei gynghori i gael prawf PCR dilynol i gadarnhau'r canlyniad mwyach, oni bai ei fod mewn grŵp sy'n agored i niwed yn glinigol neu ei fod wedi cael cyngor i wneud hynny yn rhan o raglen ymchwil neu wyliadwriaeth. Rydym ni'n credu y bydd y newid hwn yn lleihau'r galw am brofion PCR rhwng 5 y cant a 15 y cant.