Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 12 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy’n falch iawn eich bod wedi codi’r mater hwn. Cafodd sylw helaeth ddoe, fel y dywedoch chi, mewn cwestiynau gan Adam Price i’r Prif Weinidog, ond cwestiynau hefyd o bob rhan o’r—yn sicr gan Aelodau Llafur yn ogystal ag Aelodau Plaid Cymru ar yr argyfwng costau byw trychinebus y mae pobl yn ei wynebu. Yr hyn sy’n glir iawn yw bod angen inni alw ar Lywodraeth y DU i chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â hyn. Nawr, hoffwn ddweud bod nifer dda o bobl wedi manteisio ar ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd gennym ddata gan 20 o’r 22 awdurdod lleol a ddangosai fod dros 100,000 o geisiadau wedi dod i law awdurdodau lleol. Nawr, yr hyn sy'n amlwg iawn yw bod angen hyrwyddo hyn, ac rydym yn defnyddio'r holl awdurdodau lleol a holl bartneriaid y cynllun cymorth tanwydd gaeaf i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn manteisio arno.