Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 12 Ionawr 2022.
Weinidog, bydd llawer o'n teuluoedd mwyaf gweithgar yn wynebu heriau ariannol mawr dros y blynyddoedd nesaf, ac nid oherwydd cost tanwydd yn unig. Wrth i'ch Llywodraeth barhau i fwrw ymlaen â'i tharged carbon niwtral, y rhai lleiaf abl i fforddio newid yn eu system wresogi ac agweddau eraill ar eu ffordd o fyw a fydd yn ysgwyddo'r baich o gyrraedd y targedau hinsawdd hyn. Pa asesiad a wnaethoch o'r effaith ar anghydraddoldebau y bydd polisi o'r fath yn sicr o'u hysgogi? Diolch.