Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 12 Ionawr 2022.
Rwy'n gweithio gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi. Mae'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf newydd, y cynnydd arfaethedig yng nghyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen Cartrefi Clyd o 2022-23, a'r ymgynghoriad ar iteriad nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd yn dangos ein hymrwymiad yn y maes hwn.